Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Gleifion am Gludwyr Hemoglobin C

Mae prawf gwaed wedi dangos eich bod yn cludo haemoglobin C. Dyma esboniad byr:

  • Mae cludwr haemoglobin C yn berson iach.
  • Ni fydd cario haemoglobin C yn eich gwanhau yn gorfforol nac yn feddyliol.
  • Gallwch chi fwyta'r hyn rydych chi ei eisiau a gwneud unrhyw fath o waith rydych chi'n ei ddewis.
  • Nid oes angen unrhyw driniaeth feddygol arnoch oherwydd eich bod yn ei gludo.

Mae haemoglobin C yn un o ystod o amrywiadau yn y gwaed y mae meddygon yn eu galw’n “anhwylderau haemoglobin”. Mae haemoglobin yn elfen o’r gwaed. Mae’n goch, ac yn achosi i’r gwaed fod yn goch.

Yr enw ar y math arferol o haemoglobin yw haemoglobin A. Mae gennych chi haemoglobin A a haemoglobin anarferol o’r enw haemoglobin C. Nid yw cario haemoglobin C yn salwch, ac ni fydd byth yn troi’n salwch.

Ni fyddwch byth yn ei golli, ac ni all neb ei “ddal” oddi wrthych. Gwnaethoch etifeddu haemoglobin C gan un o’ch rhieni, a gallech ei drosglwyddo i’ch plant. Dyna pam y’ch gelwir yn “gludwr” haemoglobin C.

Mae haemoglobin C yn gyffredin ymhlith pobl sy’n hanu o Orllewin Affrica, Gogledd Affrica, neu ardal y Caribî. Mae’n codi weithiau mewn poblogaethau eraill.

Nid yw cario haemoglobin C yn achosi unrhyw broblemau iechyd.

Gallai fod yn bwysig i iechyd eich plant. Weithiau mae gan gludwr haemoglobin C blentyn ag anemia etifeddol difrifol, a elwir yn anhwylder y crymangelloedd. Mae’r risg yn fach, ond mae’n bwysig gwybod amdano oherwydd gellir ei osgoi.

Dim ond os yw ei bartner yn cario haemoglobin S (crymangell) y gall person sy’n cario haemoglobin C gael plentyn ag anhwylder y crymangelloedd.

Dywedwch wrth eich partner eich bod yn cario haemoglobin C, a gofynnwch iddynt gael prawf gwaed “ar gyfer anhwylderau haemoglobin”. Yn ddelfrydol dylai eich partner gael y prawf cyn dechrau’r beichiogrwydd. Gall meddyg teulu drefnu hynny.

Os nad yw eich partner yn cario anhwylder haemoglobin, nid oes unrhyw risg y gallai eich babi gael anemia etifeddol difrifol.

Trefnwch i siarad â’ch meddyg teulu. Gofynnwch am apwyntiad ar unwaith i drafod eich sefyllfa gydag ymgynghorydd arbenigol lleol (ceir manylion isod).

Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych eisoes wedi dechrau’r beichiogrwydd. Gallwch hefyd gysylltu â’r gwasanaeth cwnsela yn uniongyrchol.

Os oes gennych chi blant yn barod, neu os oes gennych chi frodyr neu chwiorydd, efallai y byddan nhw hefyd yn cario haemoglobin C.

Dylech eu hannog i ofyn i’w meddyg teulu am brawf gwaed “ar gyfer anhwylderau haemoglobin”. Gallwch ofyn yn uniongyrchol i’r gwasanaethau cwnsela am gario haemoglobin C. Gellir cael gwybodaeth am wasanaethau cwnsela ar gyfer anhwylderau haemoglobin:

Dilynwch ni