Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr (VTN) Cymru

Sefydlwyd VTN Cymru yn 2019 i sicrhau bod cyn Bersonél y Lluoedd Arfog a ddioddefodd anaf corfforol o ganlyniad i’w gwasanaeth, yn gallu cael y gofal mwyaf amserol a phriodol ar gyfer eu hanafiadau ar ôl cael eu rhyddhau o’r Lluoedd Arfog.

Gellir ymdrin ag anafiadau'r rhan fwyaf o gyn-filwyr gan ddefnyddio llwybrau atgyfeirio arferol y GIG. Fodd bynnag, mae difrifoldeb neu natur anarferol rhai anafiadau ymladd yn golygu bod cyn-filwyr weithiau angen mewnbwn arbenigol nad yw efallai ar gael yn eu bwrdd iechyd. Gall meddygon teulu wneud atgyfeiriadau drwy: VeteransTraumaNetwork@wales.nhs.uk

Dilynwch ni