Mae rhai ffyrdd cyffredin iawn o ymateb i alar, fel y soniwyd eisoes, ond nid yw'r rhain bob amser yn dilyn patrwm penodol a gallant godi eto fisoedd neu flynyddoedd lawer ar ôl y farwolaeth.
Sioc/diffyg teimlad – Fel arfer dyma un o'r ymatebion cyntaf o safbwynt galar, a gall wneud i bobl deimlo'n ddryslyd ac yn methu meddwl yn glir. Efallai na fyddwch yn gallu credu bod y person wedi marw, neu gallech ei chael hi'n anodd cofio sut yr oedd yn edrych neu'n swnio. Gall y dryswch a'r teimlad o niwl yn y meddwl barhau am amser hir, ond bydd yn dod i ben.
Tristwch llethol – Gall llawer o ddagrau neu anallu i grio o gwbl gyd-fynd â hyn. Gall galar newid eich ffordd o edrych ar fywyd a gall llawer o bethau ymddangos yn ddibwrpas, gall cynllunio ar gyfer y dyfodol ymddangos yn ofer.
Blinder a symptomau corfforol eraill – Gall y corff deimlo ei fod wedi'i lethu yn union fel y meddwl, gall cyhyrau deimlo'n dynn ac yn boenus, a gall fod symptomau fel cyfog, poenau yn y stumog a chrychguriadau’r galon hyd yn oed.
Dicter – Efallai y byddwch yn teimlo dicter at y person a fu farw, neu efallai ddicter at y rhai wnaeth adael iddo ddigwydd. Mae'n gyffredin deimlo’n drist ynghylch pethau cymharol fach, efallai pethau na fyddech wedi teimlo’n drist yn eu cylch o’r blaen.
Euogrwydd – Teimlo'n euog na wnaethom fwy, neu y gallai penderfyniad/gweithred wahanol fod wedi newid y canlyniad. Efallai y bydd euogrwydd hefyd o fod yn fyw o hyd, a gall teimlo eich bod yn dymuno y byddai eraill wedi marw yn lle hefyd arwain at deimladau o euogrwydd.
Ofn – Gall yr ofn o farw neu feddyliau am rywbeth drwg yn digwydd i deulu a ffrindiau gynyddu. Gall ofnau newydd hefyd ddatblygu, fel gadael y tŷ neu weld pobl rydych chi'n eu hadnabod pan fyddwch chi allan.
Gweld y farwolaeth a'r amgylchiadau cysylltiedig yn eich meddwl dro ar ôl tro - Er y gall hyn fod yn ofidus, gall helpu'r meddwl i brosesu popeth sydd wedi digwydd. Gallech feddwl amdano pan fyddwch yn effro neu'n cysgu ac nid yw’n anghyffredin wrth alaru.
Gall galar roi pwysau enfawr ar y rhai mewn profedigaeth a'r cylch ehangach o deulu a ffrindiau, weithiau gall deimlo fel pe na bai pobl yn deall dyfnder y galar sy'n cael ei brofi. Ceisiwch gynnal perthynas ag anwyliaid ac egluro'r ystod o emosiynau rydych yn eu profi, ni fydd gan unrhyw ddau berson yr un profiad o alar.
Gofynnwch am gymorth os nad ydych yn gallu ymdopi â’ch ymateb i alar a’i fod yn parhau am gyfnod estynedig.
Byddwch yn garedig wrthoch chi eich hun. Ceisiwch wneud pethau sy'n gwneud i chi wenu, gallwn fod yn hapus ac yn drist ar yr un pryd.
Er y gall plentyn arddangos llawer o'r un ymatebion ac emosiynau, mae'r ffordd y mae oedolion yn delio â galar plentyn yn bwysig hefyd.
Ein greddf yw amddiffyn plant rhag cael eu brifo a theimlo’n drist, ond mae'n bwysig siarad â phlant am y person sydd wedi marw a chaniatáu i deimladau gael eu rhannu'n onest ac yn agored. Dangoswch i'r plant ei bod hi'n gyffredin iawn i deimlo'n drist pan fydd rhywun wedi marw, rhowch ddigon o sicrwydd. Mae defnyddio iaith glir yn bwysig, mae dweud 'wedi marw' yn llawer mwy defnyddiol i blant na dweud bod y person wedi ‘mynd i gysgu'. Dylai plant deimlo eu bod yn gallu gofyn cwestiynau am y farwolaeth, ac yn aml byddant yn rhoi gwybod i’r oedolyn faint y maent am ei wybod. Gall hyn fod yn boenus gan y gall plant fod yn eithaf uniongyrchol wrth holi.
Yn dibynnu ar eu hoedran a'u personoliaethau, bydd plant yn galaru'n wahanol a gallant symud yn gyflym iawn o un emosiwn i'r llall. Os yw'n bosibl, dylid rhoi dewis i blentyn a yw'n dymuno mynychu'r angladd ai peidio. Dylid esbonio'r gwasanaeth mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran a dylid esbonio'r pethau y byddant yn eu gweld/clywed. Gall fod yn fuddiol eu cynnwys mewn rhyw ffordd fel dewis llun, cân neu gerdd. Wrth gwrs, mae yna ffyrdd eraill y gellir cofio'r person, fel gwneud blwch neu jar atgofion gyda'ch gilydd, creu collage neu dynnu lluniau.
Nid yw plant yn galaru yn yr un ffordd ag oedolion ac wrth iddynt dyfu a sylweddoli difrifoldeb yr hyn sydd wedi digwydd, efallai y bydd angen llawer o gymorth arnynt.
Mae elusennau sy'n cynnig cymorth yn benodol i blant mewn profedigaeth fel Hope Again, Winston's Wish a Child Bereavement UK, ac mae'r manylion wedi'u rhestru ar y dudalen we hon.