Rydym yn flin iawn am eich colled, ac yn gobeithio y bydd y wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi.
Pan fydd rhywun agos atoch chi wedi marw, gall fod yn anodd iawn delio â’r holl drefniadau sydd angen eu gwneud a gwybod pwy y mae angen ei hysbysu. Mae galar yn unigryw i bob un ohonom a bydd profiad pawb yn wahanol. Mae cymorth profedigaeth cyffredinol a phenodol ar gael i’r rhai sydd ei angen, pa bynnag gam o alar a brofir.
Os bydd rhywun wedi marw yn un o’n hysbytai, bydd angen i’r perthynas agosaf gysylltu â’r Swyddfa Profedigaeth y diwrnod gwaith nesaf ar ôl 10am, neu roi eu manylion gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Nid oes angen i chi fynd i’r Swyddfa Profedigaeth.
I ddarparu manylion ar-lein:
Darparu manylion perthynas agosaf yn dilyn marwolaeth yn yr ysbyty
I ddarparu manylion dros y ffôn:
Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC) | 029 2184 2789 |
Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl) Ysbyty'r Barri neu Ysbyty Dewi Sant |
029 2182 5225 |
Bydd y Swyddfa Profedigaeth yn gallu rhoi cyngor i chi ar y broses yn dilyn marwolaeth yn yr ysbyty. Mae oriau agor Swyddfa Profedigaeth yn:
Swyddfa Profedigaeth YAC | 8.30yb - 5yp |
Swyddfa Profedigaeth YALI | 8yb - 4yp |
Darllenwch y Llyfrynnau Profedigaeth isod i gael gwybodaeth ymarferol a chymorth pellach yn Gymraeg ac yn Saesneg:
Gwybodaeth ynghylch marwolaeth eich plentyn
Cyfieithiadau Canllaw Cymorth Galar – National Bereavement Alliance