Oedolion 18 + (Mae rhai 16-17 oed yn cael eu hystyried fesul achos)
Diagnosis clinigol o Anaf Ymennydd Caffaeledig, gan gynnwys:
Anaf Ymennydd Trawmatig
Gwaedlif Is-Arachnoid
Anaf Hypocsig i'r Ymennydd
Tiwmorau (ac eithrio rhai sy'n Cynyddu'n Gyflym a rhai Gradd Uchel)
Enceffalitis/ Anhwylderau Heintus eraill
Anaf ymennydd caffaeledig sydd wedi digwydd o fewn y 5 mlynedd ddiwethaf
Anaf ymennydd yw'r prif Angen
Os oes gan yr Unigolyn anghenion eraill sy'n cael mwy o flaenoriaeth (e.e. Camddefnyddio Sylweddau neu Iechyd Meddwl) byddem yn gofyn iddo gael ei atgyfeirio ar gyfer ei Brif anhawster yn gyntaf.
Wedi nodi Nodau Adsefydlu ac yn fodlon/gallu cymryd rhan mewn adsefydlu
D.S. darparwn wasanaeth monitro i'r Unigolion hynny ag Anaf Ymennydd Difrifol sydd ag anghenion cynhaliaeth Tymor Hir o ganlyniad i'w Hanaf Ymennydd, yn hytrach na bod angen adsefydlu gweithredol arnynt)
Angen Dull Tîm (yn hytrach na chyfraniad gan un therapi yn unig)
Yn Feddygol Sefydlog
Meini Prawf Eithrio
Strôc
Anhwylderau dirywiol
Unigolion â symptomau cyfergyd/symptomau ôl-gyfergyd
Mae angen gwahanol fath o gyfraniad ar hyn
Ni welwn unigolion sy'n byw mewn Cartrefi Preswyl neu Nyrsio
Ni chynigiwn Wasanaeth Argyfwng na Mynediad Cyflym
Atgyfeiriadau Derbyniol
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
Meddygon Teulu
Gweithwyr Cymdeithasol
Ymgynghorwyr
Headway
Ni dderbyniwn hunan-atgyfeiriadau.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.