Bydd claf yn cael ei ryddhau:
- Pan fydd pob nod cyrraeddadwy wedi'i gyrraedd neu
- Pan all yr unigolyn reoli ei symptomau heb fod angen cymorth arno neu
- Pan fydd yr unigolyn yn teimlo nad oes angen ein gwasanaeth arno rhagor neu pan nad yw'n cysylltu â'r gwasanaeth rhagor.
I'r unigolion hynny sydd wedi cyrraedd eu nodau ond y gall fod angen cymorth parhaus arnynt (e.e. gweithredu strategaethau a ddysgwyd), cynigiwn system Ffeil Gysgu sy'n cynnig monitro hirdymor yn ôl y gofyn.