Mae'r Tîm Anaf Ymennydd Cymunedol (CBIT) yn gweithio o Ysbyty Rookwood, Caerdydd. Gweithiwn ar draws ardal ddaearyddol eang; ein ffin yw ffin Awdurdod Iechyd blaenorol Bro Taf: Caerdydd, rhannau o Fro Morgannwg, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Cysylltu â Ni
Ein tîm amlbroffesiwn
- Arweinydd Clinigol / Nyrs Arbenigol
- Gweinyddwr
- Seicolegydd Clinigol
- Ffisiotherapydd
- Therapydd Galwedigaethol
- Therapydd Lleferydd ac Iaith
- Hyfforddwr Adsefydlu
Meini Prawf Atgyfeirio
Rydym yn gweithio gyda chleientiaid sydd ag ystod eang o namau a galluoedd yn dilyn Anaf Ymennydd Caffaeledig. Mae ein cleientiaid yn cynnwys pobl ag:
- Anaf Ymennydd Trawmatig
- Niwed Anocsig i'r Ymennydd
- Enceffalitis
- Gwaedlif is-arachnoid
- Tiwmor (Nad yw'n ddirywiol/cynyddol)
Ein gwerthoedd
- Dull rhyngddisgyblaethol cynhwysfawr.
- Mynediad cyfartal i'r holl gleientiaid, ar sail eu hanghenion unigol.
- Asesiad a thriniaeth ar sail unigol.
- Dull amlasiantaeth ar y cyd o fodloni anghenion ein grŵp cleientiaid, gan sicrhau felly y darperir gwasanaeth integredig a di-dor.
- Cydweithio agos â'r sector gwirfoddol.
- Cydran gref o gleient a theulu/gofalwr.
Ein Nodau
- Lleihau anabledd gymaint ag sy'n bosibl, hyrwyddo annibyniaeth a hwyluso addasiad seicogymdeithasol.
- Cefnogi'r cleient / teulu / gofalwr yn y broses o addasu i'w amgylchiadau drwy ddarparu ymyriadau, gwybodaeth a chyngor priodol, a gyflawnir drwy fonitro ac adolygu rheolaidd.
- Bod yn adnodd i weithwyr iechyd proffesiynol eraill fel y tîm iechyd sylfaenol, drwy ddarparu cyngor ac addysg ffurfiol ac anffurfiol.
Deallwn fod Anaf Ymennydd Caffaeledig yn cael effaith ar y teulu cyfan ac felly mae gofalwyr ac aelodau'r teulu yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd ar y broses adsefydlu. Gallwn ddarparu:
- Cwnsela un ac un
- Therapi/cymorth teuluol
- Grwpiau cymorth gofalwyr
- Pecyn gwybodaeth a chyngor ar y gwasanaethau sydd ar gael