Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth arbenigol i fwydo ar y fron yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg gan Dîm Seren

Am wybodaeth, cefnogaeth neu gymorth gyda bwydo o’r fron, mae croeso i chi fynychu unrhyw un o’n sesiynau cymorth bwydo o’r fron yng Nghaerdydd a’r Fro.

Mae pob grŵp yn cael ei redeg gan ymwelydd iechyd neu fydwraig, ac eithrio’r grwpiau cefnogi cyfoedion sy’n cael eu rhedeg gan famau sydd wedi eu hyfforddi i roi cymorth bwydo o’r fron.

Does dim rhaid i chi fod â phroblem er mwyn mynychu — galwch heibio am baned ac i gwrdd â mamau eraill sy’n bwydo o’r fron!

 

Sesiynau cymorth bwydo o’r fron yng Nghaerdydd a’r Fro

Grŵp Bwydo ar y Fron Llyfrgell Dinas Powys

Dydd Llun, 10am – 12pm (Eithrio gwyliau banc)

Llyfrgell Gymunedol Dinas Powys — Fairoaks, Y Murch, Dinas Powys, CF64 4QU

Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Gogledd Caerdydd

Dydd Llun, 10am – 12pm (amser tymor yn unig ac eithrio gwyliau banc)

St Mark's Church — Ffordd y Gogledd, Caerdydd, CF14 3BL 

Grŵp Bwydo ar y Fron Bae Caerdydd

Dydd Mercher, 1.30pm – 3.30pm

Byddin yr Iachawdwriaeth — Corporation Road, Caerdydd CF11 7AY

Grŵp Cymorth Bwydo ar y Barri a'r Fro

Dydd Mercher, 10am – 12pm

Dechrau’n Deg — Gladstone Road, Y Barri, CF63 1NH

Cymorth Pellach i Fwydo ar y Fron

Cymorth Cymheiriaid a Llinellau Cymorth
* National Breastfeeding Helpline — 0300 100 0212
Association of Breastfeeding Mothers
* La Leche League — 0345 120 2918
* Cymorth Bwyta o'r fron (Bengali/Sylhettui) — 03004562421
* Grŵp Cymorth Cymheiriaid Baby Latte Penarth yn Crepe Escape Penarth (Mercher 10-11am). Gwiriwch y dudalen Facebook i sicrhau bod gwirfoddolwr ar gael: https://www.facebook.com/PenarthBabyLatte
* Grŵp Cymorth Cymheiriaid Stay and Play Busy Bees, Canolfan Beacon, Harrison Drive, St Mellons CF3 0PJ (Dydd Iau 9.30am-11am term amser yn unig)


Ar hyn o bryd mae gennym ddau glinig bwydo ar y fron arbenigol yr wythnos. Dylid mynychu’r clinigau trwy apwyntiad yn unig a gall eich bydwraig neu weithiwr cymorth Seren eich atgyfeirio.

Canolfan Gristnogol Woodville — Crwys Road, Caerdydd, CF24 4ND (dydd Mawrth)

Ysbyty Dewi Sant (Children Centre)— Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9XB (dydd Gwener)

Dilynwch ni