Neidio i'r prif gynnwy

ChatHealth

Beth yw ChatHealth?

Mae ChatHealth yn wasanaeth neges destun sydd wedi'i anelu at bobl ifanc 11-19 oed. Gall helpu gyda nifer o faterion gan gynnwys:

  • Bwlio
  • Smygu
  • Lles Emosiynol
  • Teimlo'n drist neu'n grac
  • Straen arholiadau
  • Bwyta'n iach
  • Newidiadau i'ch corff
  • Cyffuriau
  • Alcohol
  • Cydberthnasau

 

Sut mae ChatHealth yn gweithio?

Dechreuwch trwy anfon neges destun i 07520 615 718. Codir tâl ar eich cyfradd rhwydwaith safonol am negeseuon testun.

Byddwch wedyn yn cael eich cysylltu â nyrs ysgol a all gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth cyfrinachol.

Mae’r gwasanaeth yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30am – 4.30pm (ac eithrio gwyliau banc)

Dylech dderbyn ymateb o fewn 24 awr, ond os byddwch yn anfon neges y tu allan i'r oriau hyn, byddwch yn derbyn neges awtomataidd yn cynnig amrywiaeth o fanylion cyswllt ar gyfer sefydliadau eraill

Mae ChatHealth yn ddienw, yn ddiogel ac yn gyfleus. Caiff pob cwestiwn ei ateb gan ChatHealth.

Dim ond un neges sydd ei hangen i ddechrau gwneud gwahaniaeth.

Os oes angen cyngor iechyd brys arnoch, ewch i GIG 111 Cymru neu ffoniwch 111. Os bydd argyfwng, ffoniwch 999.

Sut y dechreuodd?

Datblygwyd a chefnogwyd ChatHealth gan Ymddiriedolaeth GIG Partneriaeth Swydd Gaerlŷr yn 2013. Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi'i roi ar waith gan fwy na 50 o Ymddiriedolaethau GIG a sefydliadau gofal iechyd ledled y wlad i'w ddefnyddio ar draws amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd.

Cafodd ei lansio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg gan y Tîm Nyrsio Ysgolion yn 2019.

Dilynwch ni