Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc

I deuluoedd plant ag Anabledd Dysgu

 Tîm amlddisgyblaethol ydyn ni sy'n gweithio'n benodol gyda theuluoedd â phlant gyda diagnosis Anabledd Dysgu (a elwir hefyd yn Anabledd Deallusol). Mae ein tîm yn cynnwys Seicolegwyr Clinigol, Seicolegwyr Cynorthwyol, Nyrs Anableddau Dysgu, a Therapydd Seicolegol. Efallai bydd person ifanc yn cael ei atgyfeirio i'n gwasanaeth gan weithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr cymdeithasol i ddarparu cymorth ynghylch lles emosiynol neu anawsterau ymddygiadol sy'n berthynol i'w anhwylder datblygiadol.

Rydym yn gweithio ar draws safleoedd (cartref ac ysgol) ac yn cysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n rhoi gofal a chymorth i'r person ifanc. Mae hyn yn cynnwys Paediatregwyr, Therapyddion Galwedigaethol, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Athrawon, Nyrsys, a gweithwyr addysg a gofal cymdeithasol proffesiynol eraill. Mae gennym hefyd gysylltiadau a gallwn gyfeirio at gymorth y trydydd sector yn yr ardal leol. 

Gallwn helpu mewn ffyrdd amrywiol gan ddibynnu ar anghenion y person ifanc a'r teulu. Gweithredwn grwpiau i rieni a phobl ifanc i gefnogi gyda gorbryder, hunanofal rhieni, a rheoli ymddygiad. Efallai hefyd y byddwn yn gweithio gydag ysgolion a theuluoedd i ddatblygu cynlluniau cymorth unigol i berson ifanc neu'n cydweithio i ddod i ddeall amgylchedd y person ifanc a hysbysu cynllun cyffredinol ar ei gyfer. Ceisiwn ddeall yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r ymddygiad a'r emosiynau a welwn.

Tudalen yn cael ei datblygu


Dychwelyd i'r Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Dilynwch ni