Rydym yn derbyn atgyfeiriadau o amrywiaeth o ffynonellau. Unwaith y derbynnir atgyfeiriad byddwn yn cynnig apwyntiad yn yr amgylchedd y tybir ei fod yn fwyaf priodol.
Mae'r rhestr ganlynol yn enghreifftiau o resymau dros atgyfeirio:
- Anhwylderau niwrolegol
- Cyflyrau niwrogyhyrol
- Babanod a phlant ag oedi wrth ddatblygu sgiliau echddygol gros
- Trawma orthopedig, fel toriadau a datgymaliadau
- Cyflyrau orthopedig
- Adsefydlu ar ôl llawdriniaeth
- Anaf cyhysgerbydol, poen a chamweithrediad
- Cyflyrau rhewmatolegol
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos pryd NAD yw ffisiotherapi yn briodol, ond nid yw'n gyfyngedig i’r enghreifftiau hyn:
- Plant sydd â chloffni poenus — siaradwch â'ch meddyg teulu ar frysPlagioceffali (pen gwastad)
- Bysedd traed cyrliog sy'n gorgyffwrdd
- Gwahaniaeth yn hyd y goes — siaradwch â meddyg teulu ar frys os yw'n dechrau’n sydyn neu'n boenus
- Traed yn troi i mewn (intoeing) a gliniau cam
- Traed gwastad — mae hyn yn normal mewn plant dan 4 oed. Os yw'n boenus siaradwch â'ch meddyg teulu ac ystyriwch atgyfeiriad at yr adran bodiatreg - edrychwch ar y daflen.
- Cwympiadau — mae'r rhain yn normal tan tua 5 mlwydd oed
- Poen cyson
- Poen asgwrn cefn gyda phoen yn ymestyn i’r breichiau neu goesau. Os yw'n gysylltiedig â newid mewn teimlad, gweithrediad y bledren neu'r coluddyn, y ffordd rydych chi'n cerdded, neu ar ôl damwain ceisiwch gyngor meddygol brys.
- Poen cefn mewn plant o dan 6 oed
- Poen yn y gwddf gyda phendro, problemau lleferydd neu lyncu newydd, llewygu, golwg ddwbl, cyfog, neu ddim teimlad yn yr wyneb
- Torticollis sy’n cychwyn yn sydyn mewn plentyn (pen wedi'i ogwyddo i un ochr)