Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Deuluoedd

Ceisiadau am Gymorth

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i blentyn/person ifanc ag anabledd deallusol a/neu ASD, ac os hoffech gymorth ynghylch ymddygiad neu les emosiynol eich plentyn, efallai y gallwch ddefnyddio ein tîm ni. Fodd bynnag, weithiau, byddwn yn teimlo bod yna well gwasanaeth i fodloni eich anghenion ac yn awgrymu hwn yn hytrach.

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan Weithwyr Iechyd Plant Cymunedol proffesiynol (e.e. Paediatregydd, Therapydd Lleferydd ac Iaith, Therapydd Galwedigaethol, Ymwelydd Iechyd Anghenion Arbennig), Gweithwyr Cymdeithasol yn y Timau Iechyd Plant ac Anabledd neu Uwch Staff Arwain mewn Ysgol Arbennig ddynodedig. 

Addasiadau i'r Gwasanaeth yn ystod Ynysu Covid-19 

Rydym yn parhau i weithredu fel arfer, ond aflonyddwyd rhywfaint ar gyfarfod wyneb yn wyneb, cynnal cyfarfodydd a chynnal arsylwadau. Gan amlaf, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu'n cynnig galwad fideo yn lle cyfarfodydd wyneb yn wyneb.  

Cymorth Ychwanegol yn ystod Ynysu COVID-19

Mae'r cyfnod clo cyfredol yn amser caled ofnadwy i blant a theuluoedd tra bydd yr ysgol ar gau, a ninnau'n cael ein cynghori i hunanynysu neu gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ein ffrindiau a'n teuluoedd. Bydd ein trefn a'n strwythur arferol ar chwâl. Yn ystod amser ansicr a bygythiol fel hwn, mae'n arferol iawn teimlo emosiynau fel pryder, ofn, dryswch a thristwch. Fodd bynnag, ar adegau, gall pawb deimlo bod yr emosiynau hyn yn eu llethu.

Mae croeso ichi fwrw golwg ar ein Pecyn Gwybodaeth lle mae llawer o syniadau am ffyrdd o gynnal rhyw fath o strwythur a threfn, gweithgareddau rheoleiddio ac, yn bwysig, gofalu amdanoch chi'ch hunain. 

I'ch cefnogi chi a'ch teulu i oresgyn y don hon o ansicrwydd a bygythiad, rydym hefyd wedi sefydlu llinell gymorth ffôn i gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad. 

Rheoli Argyfyngau

Nid gwasanaeth argyfwng mohonom, ac ni allwn gynnig cymorth y tu allan i oriau arferol. Felly, os oes angen brys arnoch neu os teimlwch fod eich plentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'r gwasanaeth argyfwng priodol.

Ffynonellau Eraill o Gymorth

Am unrhyw wybodaeth neu gyngor arall, cysylltwch â'r porth Teuluoedd ar 0300 133 133  Cyngor a Chymorth i Deuluoedd

Dilynwch ni