Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Weithwyr Proffesiynol

Gwybodaeth i Weithwyr Proffesiynol

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol Iechyd Plant Cymunedol (Paediatregydd, Therapydd Galwedigaethol, Therapydd Lleferydd ac Iaith, Ymwelydd Iechyd Anghenion Arbennig ac ati) neu'n Weithiwr Cymdeithasol yn y tîm Iechyd ac Anabledd Plant (CHAD), gallwch atgyfeirio plentyn i'n gwasanaeth gan ddefnyddio ein ffurflen atgyfeirio sydd ar gael yma Form Ffurflen.

 

Croesawn drafodaeth am wneud atgyfeiriad os ydych yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol. Gallwn drafod yr opsiynau ymyrryd amrywiol a gynigiwn. Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 

  02920 536 733

 

Un Pwynt Mynediad

Mae ein hatgyfeiriadau'n destun y broses Un Pwynt Mynediad, felly pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen atgyfeirio, cofiwch ei hanfon mewn e-bost i'r cyfeiriad ar waelod y ffurflen. Mae'r atgyfeiriadau a ddaw drwodd i ni o'r Un Pwynt Mynediad yn cael eu trafod wedyn gan o leiaf dau Seicolegydd Clinigol yn y tîm i benderfynu ai ni yw'r gwasanaeth mwyaf priodol i fodloni anghenion y teulu. Os cytunwn mai ni yw'r gwasanaeth hwnnw, derbynnir yr atgyfeiriad ac fe'i rhoir ar ein rhestr aros am ymgynghoriad cychwynnol. Os teimlwn y gallai gwasanaeth arall fod yn well am fodloni anghenion y teulu, anfonir llythyr yn egluro ein penderfyniad. 

Cyn i Chi Atgyfeirio i Ni

Os ydych yn ystyried atgyfeirio teulu i'n gwasanaeth ni, ystyriwch yr wybodaeth ganlynol:
 
  • Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Deuluol Gymunedol yn cynnig cymorth i deuluoedd plant sydd ag anhwylder niwroddatblygiadol; mae hyn yn nodweddiadol yn cynnwys Anabledd Deallusol sylweddol, Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig, neu syndrom genetig sy'n effeithio ar eu datblygiad
     
  • Mae'r plant a gefnogwn yn debygol o gael anawsterau gwybyddol sylweddol gan gynnwys sgiliau geiriol a di-eiriau gwael, anawsterau iaith fynegiannol a goddefol, cof gwael, a chyflymder prosesu gwael.  
     
  • Mae'r plant a gefnogwn hefyd yn debygol o gael anawsterau ymddygiadol ymaddasol sylweddol a allai gynnwys anawsterau gyda symudedd, ymolchi, gwisgo, bwyta, defnyddio technoleg gwybodaeth, arian, cludiant ac ati.
     
  • Mae'r plant a gefnogwn yn nodweddiadol yn cael eu herio ar draws safleoedd. Ar gyfer anawsterau sy'n digwydd mewn safle ysgol yn unig, efallai bydd y tîm Seicoleg Addysgol neu'r tîm Allgymorth ASD (ar gyfer ysgolion prif ffrwd) yn fwy priodol.   
  • Nid gwasanaeth argyfwng nac iechyd meddwl mohonom ac ni allwn gynnig cymorth brys na chymorth y tu allan i oriau arferol. Ar gyfer unigolion â diagnosis niwroddatblygiadol (fel ASD neu ADHD) sy'n ‘gweithredu ar lefel uwch’, yn nodweddiadol mewn amgylchedd ysgol 'prif ffrwd' ac sy'n cael anawsterau iechyd meddwl sy'n cydfodoli (h.y. hwyliau isel, gorbryder, trawma, hunanniweidio, syniadaeth hunanddinistriol), byddem yn annog asesiad gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl amlddisgyblaethol arbenigol yn y lle cyntaf. Gall ein gwasanaeth ddarparu ymgynghoriad i weithwyr proffesiynol mewn Iechyd Meddwl Sylfaenol neu CAMHS os byddant yn teimlo bod anhwylder niwroddatblygiadol sy'n cydfodoli yn cymhlethu'r driniaeth a gynigiant fel arfer.  Os felly, gallwn drafod addasiadau rhesymol a allai hwyluso'r driniaeth a argymhellir ar gyfer anawsterau iechyd meddwl. 
Dilynwch ni