Nid yn unig maent yn annog integreiddio o fewn eu cymuned a’u diwylliant eu hunain, maent hefyd yn awyddus i ddysgu a chael eu hysbrydoli gan y diwylliannau a’r traddodiadau y maent yn dod i gysylltiad â hwy bob dydd gan eu cleientiaid hyfryd yn Oasis.
Mae ganddynt oddeutu 150 - 250 o ymwelwyr y dydd, sy’n cynnwys pobl o Iran, Irac, Affganistan, Sudan, Mali a Congo ymhlith llawer o wledydd eraill.
Mae rhai newydd gyrraedd yng Nghaerdydd tra bod eraill wedi bod yma ers ychydig o flynyddoedd ac maent yn ymweld ag Oasis i gymdeithasu â’r ffrindiau niferus maent wedi’u gwneud yma.
Yn ystod yr wythnos, mae eu canolfan ar agor i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, maent yn cynnal sesiynau a grwpiau i fenywod yn unig, dosbarthiadau celf, dosbarthiadau Saesneg, sesiynau chwaraeon, sesiynau cynghori dyddiol, fforymau eirioli, sesiynau ymlacio, a llawer mwy, ac rydym hefyd yn darparu cinio am ddim bob diwrnod o’r wythnos sydd bob amser yn flasus dros ben!
Y tu allan i’r ganolfan maent yn ceisio trefnu teithiau diwylliannol a chwaraeon rheolaidd ledled Cymru o ymweliadau ag amgueddfeydd ac orielau celf i weithgareddau tîm chwaraeon a heriau copa’r mynydd.
Er mwyn cynnwys ac ymgysylltu â’r gymuned leol ac ehangach o ran yr hyn maent yn ei wneud a’r holl bobl anhygoel maent yn cyfarfod â hwy, maent yn cynnal digwyddiadau cymunedol rheolaidd megis Clwb Swper misol gyda phryd o ran wahanol o’r byd bob mis, yn ogystal â digwyddiadau Oasis Caerdydd dros do, lle maent yn gweini bwyd byd-eang sydd wedi’i gyflwyno i ni gan ein cleientiaid dawnus sy’n mwynhau coginio. Rydym hefyd yn cynnal clybiau sinema cymunedol bob pythefnos sydd am ddim i bawb!
Cyfeiriad: 69b Heol y Sblot, y Sblot, Caerdydd, CF24 2BW
Rhif ffôn: 02920 460 424
Gwefan: www.oasiscardiff.org
Mae Canolfan y Drindod yn gweithio gyda rhai o’r bobl sydd o dan yr anfantais fwyaf yn ein cymuned er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, tlodi a chefnogi pobl i greu a gweithredu cynlluniau i gyflawni canlyniadau positif iddyn nhw eu hunain ac i’w teuluoedd.
Mae Canolfan y Drindod yn un o elusennau Cylch Methodistaidd Caerdydd, ond caiff ei chefnogi gan, ac mae ar gyfer, pobl o bob ffydd a dim ffydd.
Mae’r Drindod wedi atal rhai o’i gweithgareddau dros dro, fodd bynnag mae sesiynau Space4U yn ailddechrau’n araf! Mae’r gwasanaeth Dosbarthu Bwyd, y Banc Dillad a Desgiau Help a Chyngor wedi ailddechrau. Mae’r cyfan ar gael drwy apwyntiad yn unig, felly cysylltwch â Space4U yn uniongyrchol neu Ganolfan y Drindod ar 02921 321120 i gael rhagor o wybodaeth.
Cyfeiriad: Canolfan y Drindod, Four Elms Road, Piercefield Pl, Caerdydd, CF24 1LE
Rhif ffôn: 02921321120 / Sr Ruth 07748274286
Gwefan: www.trinitycentre.wales
Gall cynghorwyr llinell gymorth gyfeirio pobl at sefydliadau a gwasanaethau perthnasol yn yr ardal. Darparu cyngor arbenigol ar gyflogaeth. Cyfeirio pobl at sefydliadau arbenigol. Darparu gwybodaeth mewn ystod o ieithoedd cymunedol. Darparu gwybodaeth ynghylch: Iechyd, gwaith, hawliadau lles, addysg, tai a diogelwch personol.
Rhif ffôn: 0300 222 5720
Neges destun: 07537432416
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 10.30am - 2.30pm
Gwefan: https://bame.wales/
Ieithoedd: Bengali, Wrdw, Hindi, Mandarin, Arabeg, Shona, Ndebele. Gellir trefnu ieithoedd eraill drwy apwyntiad.
Cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim i geiswyr lloches.
Cyfeiriad: 113-116 Stryd Biwt, Caerdydd, CF10 5EQ
Rhif ffôn: 02920 499 421
Gwefan: http://asylumjustice.org.uk/
Mae EYST Cymru yn sefydliad arobryn a sefydlwyd i gefnogi pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig, eu teuluoedd a’u cymunedau yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yn 2005, mae bellach yn sefydliad ledled Cymru sydd â staff yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Mae’r sefydliad yn anelu at ddarparu gwasanaethau cymorth sy’n sensitif yn ddiwylliannol i’w grŵp targed, gan gwmpasu cymorth addysgiadol, cymorth cyflogaeth, cymorth iechyd, cymorth teulu a chymorth i gael gafael ar hawliau a hawliadau
Rhif ffôn: 01792 466980
E-bost: info@eyst.org.uk
Gwefan: http://www.eyst.org.uk
Prosiect sy’n darparu cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc (0-25 oed) o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Yn ystod y cyfyngiadau symud maent wedi bod yn darparu ystod o wasanaethau. Cyngor ar fudd-daliadau lles, dosbarthu bwyd, dyfeisiau technoleg, dodrefn a hanfodion y cartref, a chymorth wedi’i deilwra.
Caerdydd: Fateha Ahmed 07909931149 fateha@eyst.org.uk
Casnewydd: Jalal Goni 07939494761 jalal@eyst.org.uk / Fatiha Ali 07541557726 fatiha@eyst.org.uk
Wrecsam: Lee Tiratira 07596027225 lee@eyst.org.uk
Adnoddau newydd ar droseddau casineb, adnoddau ESOL newydd, llinell gymorth emosiynol, help gyda gwaith achos. Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru bellach yn gweithredu drwy system ffôn yn unig. Bydd y llinell ffôn ar gael rhwng 10am - 2pm. Os bydd angen i chi, neu rywun rydych yn ei gefnogi, siarad ag un o’r tîm, ffoniwch ar eu rhif cenedlaethol: 0808 196 7273. Caiff yr alwad ei brysbennu gan un o’r tîm ac os gallant helpu, bydd gweithiwr achos yn dychwelyd eich galwad. Os bydd angen cyfieithydd, bydd yn gwneud ei orau i sicrhau bod cyfieithydd ar gael ar y ffôn.
Gwefan: https://wrc.wales/
Lleoliadau: Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrescam
Elusen iechyd meddwl a lles sy’n gwasanaethu’r gymuned drwy gwnsela, bod yn gyfaill ac eirioli. Symudodd y gwasanaethau ar-lein/dros y ffôn o ganlyniad i COVID-19. Maent hefyd yn darparu cyrsiau cymunedol o dan yr enw Rheoli ein Meddyliau. Darparodd weithdai ar gyfer Rheoli Dicter, Goresgyn Gorbryder, Datblygu eich Hyder, a Rheoli Straen.
Cyfeiriad: 62 Heol yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 3LX
Rhif ffôn: 02920 345 294
E-bost: info@ccaws.org.uk
Ieithoedd: Sbaeneg, Ffrangeg, Rwseg, Wrdw, Pwnjabeg, Arabeg, Pwyleg a Sinhala (ar gyfer y gwasanaeth cwnsela yn unig)
Yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches ers 2001.
Prosiectau:
Gwefan: www.dpia.org.uk/projects/
Mosg, o fewn 5 munud ar droed o CHAP. Mae llawer o bobl sy’n siarad Swdaneg ac Arabeg yn y mosg hwnnw.
Cyn y cyfyngiadau symud, cafodd prydau poeth eu gweini bob dydd Iau, lle y gallai pobl ddod i mewn a chymdeithasu wedi hynny. Heb ailddechrau eto.
Cyfeiriad: 92 Broadway, Adamsdown, Caerdydd CF24 1NH
Rhif ffôn: 07536761723
E-bost: info@alikhlas.org.uk
Gwefan: www.alikhlas.org