Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil

Banc Bio Prifysgol Caerdydd

Mae Banc Bio Prifysgol Caerdydd (agor mewn dolen newydd) yn gyfleuster biofancio canolog sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n cynnig biosamplau dynol o ansawdd uchel o ansawdd uchel i sefydliadau academaidd a masnachol ar gyfer ymchwil a gynhelir er budd cleifion. Mae'r banc bio wedi sefydlu casgliadau o nifer o wahanol feysydd clefyd gwahanol ac yn croesawu dulliau i gychwyn casgliadau newydd nad ydynt eisioes wedi'u sefydlu eisoes o fewn y cyfleuster.

Mae gan y cyfleuster y gallu i storio hyd at 900,000 o samplau biolegol. Mae cleifion a gwirfoddolwyr iach wedi rhoi'r samplau biolegol hyn i alluogi ymchwilwyr i ddod i ddeall clefydau'n well. Mae'r samplau'n hollbwysig er mwyn galluogi ymchwilwyr i ddod o hyd i ddulliau gwell o wneud diagnosis, atal, trin ac o bosibl dod o hyd i ffordd o wella amrediad eang o gyflyrau meddygol.

Porth Ymchwil Clefydau Prin Parc Geneteg Cymru

Mae Parc Geneteg Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r Parc, sy’n cael ei gynnal gan yr Is-adran Canser a Geneteg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil ym maes geneteg a genomeg ledled Cymru, a thrwy hynny’n helpu i roi Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru ar waith.

Mae Parc Geneteg Cymru wedi gweithio gyda chleifion a theuluoedd, y cyhoedd a phartneriaid eraill i ddod â chymaint o wybodaeth â phosibl ynghyd mewn un lle am brosiectau ymchwil clefydau prin ar gyfer cleifion yng Nghymru – Porth Ymchwil Clefydau Prin (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni