Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil

Banc Bio Prifysgol Caerdydd

Mae Banc Bio Prifysgol Caerdydd (agor mewn dolen newydd) yn gyfleuster biofancio canolog sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'n cynnig biosamplau dynol o ansawdd uchel o ansawdd uchel i sefydliadau academaidd a masnachol ar gyfer ymchwil a gynhelir er budd cleifion. Mae'r banc bio wedi sefydlu casgliadau o nifer o wahanol feysydd clefyd gwahanol ac yn croesawu dulliau i gychwyn casgliadau newydd nad ydynt eisioes wedi'u sefydlu eisoes o fewn y cyfleuster.

Mae gan y cyfleuster y gallu i storio hyd at 900,000 o samplau biolegol. Mae cleifion a gwirfoddolwyr iach wedi rhoi'r samplau biolegol hyn i alluogi ymchwilwyr i ddod i ddeall clefydau'n well. Mae'r samplau'n hollbwysig er mwyn galluogi ymchwilwyr i ddod o hyd i ddulliau gwell o wneud diagnosis, atal, trin ac o bosibl dod o hyd i ffordd o wella amrediad eang o gyflyrau meddygol.

Porth Ymchwil Clefydau Prin Parc Geneteg Cymru

Mae Parc Geneteg Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r Parc, sy’n cael ei gynnal gan yr Is-adran Canser a Geneteg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn cefnogi ac yn hyrwyddo ymchwil ym maes geneteg a genomeg ledled Cymru, a thrwy hynny’n helpu i roi Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru ar waith.

Mae Parc Geneteg Cymru wedi gweithio gyda chleifion a theuluoedd, y cyhoedd a phartneriaid eraill i ddod â chymaint o wybodaeth â phosibl ynghyd mewn un lle am brosiectau ymchwil clefydau prin ar gyfer cleifion yng Nghymru – Porth Ymchwil Clefydau Prin (agor mewn dolen newydd).

Ymchwil Clefyd Prin y DU

Sefydlwyd Ymchwil Clefyd Prin y DU - Rare Disease Research UK (RDRUK) i gysylltu a gwella cryfderau'r DU mewn ymchwil clefydau prin. Mae Llwyfan RDRUK (agor mewn dolen newydd) yn dwyn ynghyd arbenigedd pob un o'r 11 nod ymchwil, gan feithrin mwy o gydweithio rhwng ymchwilwyr academaidd, clinigol a diwydiant, cleifion, elusennau ymchwil a sefydliadau allweddol eraill ym maes ymchwil clefydau prin.

Cydnabyddir bod gan labordai academaidd y DU arbenigedd blaenllaw yn y byd mewn technegau lipidomeg a metaboleg modern, ond ar hyn o bryd mae hyn mor sbesiffig fel nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion ac felly nid ydynt yn elwa o'r datblygiadau technoleg diweddaraf. Mae'r nod Lipidomeg a Metabolomeg ar gyfer Diagnosis Clefydau Prin (agor mewn dolen newydd), dan arweiniad yr Athro William Griffiths, Prifysgol Abertawe, yn dod ag arbenigwyr o bob rhan o'r DU ynghyd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn, ac i sefydlu llwybrau newydd ar gyfer mynediad clinigol i brofion sengl a all nodi anhwylderau metabolomig wedi'u targedu at glefydau prin, gan alluogi diagnosis cynharach,  ymyrraeth, monitro triniaeth, a chanlyniadau clinigol gwell.

Rhwydwaith Ymchwil Clefydau Prin

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Clefydau Prin (agor mewn dolen newydd) yn brosiect partneriaeth rhwng CamRARE a'r Ganolfan Ymchwil dan Arweiniad Cleifion, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (NIHR) ac a noddir gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Caergrawnt.

Nod y prosiect yw cefnogi'r gymuned clefydau prin wrth adeiladu rhwydwaith ar-lein o bartneriaethau ac adnoddau i hwyluso cyfleoedd ymchwil newydd sy'n canolbwyntio ar y claf. Bydd y rhwydwaith yn hyrwyddo tegwch drwy ganiatáu i glefydau mwy prin, a'r grwpiau cleifion sy'n cefnogi eu cymunedau, gael eu gweld a'u clywed yn y gofod ymchwil.

Dilynwch ni