Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael mynediad at wasanaethau cwnsela a seicolegol yng Nghymru

Gall byw gyda chyflwr iechyd fod yn anodd, a gall ysgogi ystod eang o emosiynau cryf. Efallai y byddwch yn teimlo'n ddig, yn orbryderus neu'n drist am eich sefyllfa bersonol a'ch iechyd, neu efallai y byddwch yn cael eich hun yn gwylltio, yn orbryderus neu'n drist am bethau na fyddech fel arfer yn teimlo mor gryf yn eu cylch.

Mae cael teimladau cryf, anodd ar adegau o fygythiad neu ansicrwydd, yn brofiad dynol arferol, dealladwy. Fodd bynnag, os sylwch fod eich emosiynau'n achosi gofid i chi neu eraill, efallai y byddwch yn elwa ar ddysgu ffyrdd newydd o ymdopi. Mae hyn yn rhywbeth y gallwch siarad â'ch tîm cardiaidd a'ch meddyg teulu yn ei gylch. Byddant yn gallu eich atgyfeirio at gymorth priodol os oes angen. Rydym hefyd wedi creu rhestr isod o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol.

 

Adnoddau defnyddiol:

  • Mae gan y wefan Cadw Fi’n Iach amrywiaeth o wybodaeth a chyngor i helpu i gefnogi eich iechyd a’ch lles. P'un a ydych yn paratoi ar gyfer triniaeth, yn rheoli cyflwr hirdymor neu'n awyddus i fyw bywyd iachach a mwy egnïol.

  • Gofynnwch am gael siarad â'ch Nyrs Gardiaidd Arbenigol am y gwasanaethau cymorth seicolegol neu emosiynol sydd ar gael. Mae gennym seicolegwyr clinigol wedi'u lleoli yn ein rhwydwaith. Maent wedi'u lleoli ym Mryste a Chaerdydd ac maent hefyd ar gael ar gyfer gwaith rhithwir. Ffoniwch: 02921 844 580 neu 07966 982 995.

  • Mae seicolegydd Rhwydwaith ACHD ar gael i gleifion sy'n byw yn Ne Cymru a De-orllewin Lloegr y gall eich tîm ACHD eich atgyfeirio ato.

  • Mae Elusen ACHD 'The Somerville Foundation' yn cynnig gwasanaeth Iechyd Meddwl a Lles am ddim. Maent yn cynnig cymorth ffôn ac e-bost 1:1, mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth am faterion emosiynol ac iechyd meddwl, a gallant eich helpu i'ch rhoi mewn cysylltiad ag adnoddau a gwasanaethau lleol. E-bostiwch: admin@thesf.org.uk neu Ffoniwch: 0300 015 1998.

  • Sefydliad Prydeinig y Galon – yn cynnig 'Llinell Gymorth y Galon' a all roi gwybodaeth a chefnogaeth i chi am unrhyw beth sy'n gysylltiedig â'r galon. Ffoniwch: 0300 330 3311 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm).

  • Mae therapi seicolegol ar-lein Silver Cloud yn rhaglen therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein a all eich helpu gyda theimladau o orbryder ac iselder. Mae bellach ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw gleifion y GIG yng Nghymru. Bydd angen i chi greu cyfrif am ddim i gael mynediad i'r adnodd hwn. Ewch i wefan SilverCloud.

  • Dylai eich meddyg teulu hefyd allu eich atgyfeirio at wasanaeth cwnsela a seicolegol lleol. Ar gyfer problemau iechyd meddwl mwy parhaus neu ddifrifol, gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio i gael eich asesu gan eich Gwasanaeth Iechyd Meddwl Oedolion lleol.

  • Mae gan Elusen Mind gyfoeth o gymorth, gwybodaeth ac adnoddau ac maent yn cynnig sesiynau therapi siarad/cwnsela am ddim gan y GIG (drwy atgyfeiriad gan eich meddyg teulu). Ewch i wefan Mind neu ffoniwch: 0300 123 3393.

  • Mae Living Life To The Full yn cynnig adnoddau iechyd meddwl ar-lein am ddim i weithwyr proffesiynol a chleifion. Ewch i'r wefan Living Life To The Full.

 

Sefydliadau cynghorau lleol a sefydliadau gwirfoddol/elusennol a all ddarparu cwnsela:

  • Gwasanaethau Cwnsela i Bobl Ifanc: Wedi'i leoli yn eich ardal leol, weithiau'n cael ei redeg gan yr awdurdod lleol neu gan elusen. Mae'r rhain yn amrywio ar draws y wlad ac o ran y grŵp oedran sy'n gallu cael mynediad i'r gwasanaeth. Yn aml iawn, gall pobl ifanc atgyfeirio eu hunain.

  • Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr Coleg neu Brifysgol: Wedi'i leoli yn y coleg neu'r brifysgol a fynychir. Mae eich Cyngor lleol fel arfer yn rhestru asiantaethau lleol sy'n darparu cwnsela ar eu gwefan, fel arall, gallwch eu ffonio neu holi yn y llyfrgell leol.

  • Bydd eich meddygfa hefyd yn ymwybodol o sefydliadau gwirfoddol/elusennol cynghorau lleol.

 

Os ydych yn gallu talu, mae llawer o gwnselwyr a seicotherapyddion sy'n gweithio'n breifat. Mae'n bwysig gwirio bod gan y cwnselydd neu'r therapydd gymwysterau priodol. Dyma restr o sefydliadau y gallwch eu defnyddio i ddod o hyd i wasanaethau cwnsela yn eich ardal:

  • Mae Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) yn cyhoeddi cyfeiriaduron o gwnselwyr unigol a sefydliadau cwnsela ledled y DU. Ffoniwch: 0870 443 5252 neu ewch i wefan BACP.

  • Mae Cymdeithas Seicotherapyddion Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP) yn darparu gwybodaeth am sut i ddod o hyd i therapydd yn eich ardal. Hefyd, mae BABCP yn cynhyrchu gwybodaeth am iselder, gorbryder, pyliau o banig a ffobiâu. Ffoniwch: 0161 797 4484 neu ewch i wefan BABCP.

  • Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn darparu cronfa ddata chwiliadwy o seicolegwyr siartredig yn y DU. Ffoniwch: 0116 254 9568 neu ewch i wefan BPS.

 

Awgrymiadau ar wella lles

Pan fyddwn dan adegau o straen neu fygythiad uchel, mae'n bwysig gwneud amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ein tawelu neu'n ein lleddfu. Mae hyn yn wahanol i bawb. Gallai olygu cael bath braf, mynd am dro neu goginio rhywbeth newydd. Gallech alw ffrind am sgwrs, neu weithio ar brosiect newydd. Mae'n ymwneud â dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi. Yn aml, y gweithgareddau hyn yw'r pethau rydyn ni'n eu stopio pan fydd bywyd yn brysur, ond gallant ein helpu i ymdopi ag unrhyw heriau sy'n ein hwynebu.

 

Gweithgareddau ystyriol

Mae rhai pobl yn ei chael hi'n ddefnyddiol cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyriol. Mae'r rhain yn weithgareddau sy'n ein helpu i ganolbwyntio ar y presennol, yn hytrach na chanolbwyntio ar y gorffennol neu boeni am y dyfodol. Gall hyn gynnwys gwrando ar recordiadau, ond gallwch hefyd fynd am dro ystyriol neu gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyriol fel coginio, garddio neu ddarlunio. Weithiau, gallwn deimlo’n anghyfforddus yn gwneud pethau ystyriol. Peidiwch â gwneud mwy nag y teimlwch y gallwch ymdopi ag ef, ac os yw'n teimlo'n iawn, ceisiwch ei wneud bob dydd. Gweler ein hadnodd ar wahân ar 'ymwybyddiaeth ofalgar.