Mae'r tîm endosgopi yn ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r holl gleifion sy'n mynychu'r unedau endosgopi yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru.
Rydym bob amser yn edrych ymlaen at glywed gennych os ydych wedi cael profiad cadarnhaol yn ystod eich ymweliad â'r unedau endosgopi. Gallwch anfon ‘canmoliaeth’ atom trwy lythyr, e-bost, Facebook neu Twitter. Gweler adran Canmoliaeth y wefan am ragor o wybodaeth.
Rydym hefyd yn croesawu adborth ynghylch sut y gallwn wella'r gwasanaeth a ddarparwn yn y dyfodol. Gallwch ofyn am gael siarad â'r nyrs â gofal yn ystod eich ymweliad â'r uned. Os hoffech fynegi pryder ffurfiol am y gofal a gawsoch ewch i adran Pryderon y wefan am ragor o wybodaeth sut y gallwch wneud hyn.