Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty'r Barri

Barry Hospital

Ffacs: 01446 704140

Darllenwch y Daflen Wybodaeth i Gleifion Ffisiotherapi cyn dechrau triniaeth Ffisiotherapi.

Oriau agor

07:30-16:00 dydd Llun
08:00-16:30 dydd Mawrth - Gwener
Ar gau ar benwythnosau a Gwyliau Banc

Ble mae'r Adran Ffisiotherapi yn Ysbyty'r Barri?

Dewch i mewn i'r ysbyty drwy'r brif fynedfa. Dringwch y grisiau ar y dde i'r llawr cyntaf. Trowch i'r chwith ar ben y grisiau. Cerddwch ar hyd y coridor a thrwy'r drysau dwbl ac mae'r adran ar y dde. Mae lifft ar gael hefyd i'r adran.

Parcio ceir / bysiau

Mae yna faes parcio ym mlaen yr ysbyty. Mae lleoedd parcio ychwanegol ar gael y tu cefn i'r ysbyty yn y maes parcio wrth gefn. Nid oes angen talu i barcio.

Mae gwybodaeth am Fysiau Caerdydd ar gael drwy:

Dalgylch

Bydd cleifion sy'n byw yn y lleoedd canlynol yn cael eu Ffisiotherapi yn Ysbyty'r Barri.

Mae ein Dogfen Dalgylch yn dangos y dalgylch ar gyfer pob un o Adrannau Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol BIP Caerdydd a'r Fro. Bydd ceisiadau am driniaeth y tu allan i ddalgylch yn cael eu hadolygu fesul achos. 

  • y Barri
  • y Bont-faen
  • Llanilltud Fawr
  • y Rhws
  • Sain Tathan
  • y Wig
  • Gwenfô
  • Gorllewin y Fro (i'w gadarnhau)

 

Dilynwch ni