Ffacs: 029 2071 5210
Darllenwch y Daflen Wybodaeth i Gleifion Ffisiotherapi cyn dechrau triniaeth Ffisiotherapi.
08:00 - 17:30 Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau
08:30 - 17:00 Dydd Mercher
08:00 - 16:30 Dydd Gwener
Ar gau ar benwythnosau a Gwyliau Banc
Os ydych yn dod mewn car, y ffordd fwyaf cyfleus i'r uned hon yw drwy gefn yr ysbyty lle gallwch gael eich gollwng y tu allan i'r adeilad Therapïau (hon yw'r ardal lle daw'r Ambiwlansys i'r ysbyty).
Ceir ychydig bach o leoedd parcio i'r Anabl yn y maes parcio bychan gyferbyn â'r adeilad Therapïau.
Fel arall, mae lleoedd parcio ym mlaen yr ysbyty a'r ffordd i'r uned yw drwy'r brif fynedfa.
Ewch syth ymlaen i ymuno â'r prif goridor (cwmpawd ar y llawr). Trowch i'r dde a dilynwch y coridor. Arhoswch ar y llawr gwaelod. Mae arwyddion i'r adran sef yr Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol yn y prif goridor. Ewch heibio i'r ffreutur, yr adran pelydr-X a Chardioleg ar y chwith ac ewch ymlaen nes cyrraedd yr ardal o goridor oren. Trowch i'r chwith ac ewch allan o'r drysau yng nghefn yr ysbyty. Yn syth o'ch blaen, fe welwch adeilad gwyrdd, sef prif fynedfa'r Adran Therapïau. Ewch i fyny'r ramp ym mlaen yr adeilad hwn i ddrws y brif fynedfa. Bydd desg derbynfa'r adran Therapïau i'w gweld yn syth y tu mewn, ar y chwith.
Mae angen cerdded rhyw 300 metr i wneud hyn. Os oes angen cymorth arnoch, holwch wrth brif dderbynfa'r ysbyty am borthor ysbyty.
Mae maes parcio yn yr ysbyty ac nid oes angen talu i barcio.
Mae gwybodaeth am Fysiau Caerdydd ar gael drwy:
Bydd cleifion sy'n byw yn y lleoliadau canlynol yn cael eu Ffisiotherapi yn YALl.
Mae ein Dogfen Dalgylch yn dangos y dalgylch ar gyfer pob Adran Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol yn BIP Caerdydd a'r Fro. Bydd ceisiadau am driniaeth y tu allan i ddalgylch yn cael eu hadolygu fesul achos.
|
|