Erbyn hyn, gall cleifion gael at wasanaeth CMATS ar gyfer eu hanhwylderau ysgwydd, pen-glin, asgwrn cefn a chlun. Datblygwyd llwybrau i ddangos pryd i atyfeirio i'r gwasanaeth hwn ym mhob achos a pha reolaeth geidwadol y dylid fod wedi'i cheisio'n wreiddiol.
Dylai unrhyw un sy'n atgyfeirio i'r gwasanaeth sicrhau bod yr atgyfeiriad yn dangos yn glir fod y llwybr perthnasol wedi'i ddilyn ac y rhoddwyd cynnig ar y driniaeth geidwadol a nodwyd a bod honno wedi methu, er mwyn derbyn atgyfeiriad. Mae'r llwybrau'n seiliedig ar dystiolaeth, yn defnyddio delweddu'n ddarbodus, yn cyfeirio at ffynonellau defnyddiol o wybodaeth cleifion ac wedi'u cytuno gan yr holl randdeiliaid.
Bydd CMATS yn rhith-frysbennu pob atgyfeiriad i sicrhau y caiff ei dderbyn neu ei ailgyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol. Bydd yr atgyfeiriadau hynny y mae'n amlwg bod angen barn llawfeddyg orthopaedig ymgynghorol arnynt yn cael eu hailgyfeirio yn ystod y broses rith-frysbennu hon cyn gynted ag y cânt eu darllen.
Un elfen allweddol o wasanaeth CMATS fu ystyried dulliau rheoli ffordd o fyw, gan gynnwys rheoli pwysau a rhoi'r gorau i smygu. Mae'r ddogfen gefnogi gysylltiedig ar gael isod:
I atgyfeirio claf i wasanaeth CMATS ar gyfer anhwylder ysgwydd, pen-glin, clun neu asgwrn cefn, dewiswch CMATS – y Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol ar Borth Cyfathrebu Clinigol Cymru (PCCC).
Yn dilyn apwyntiad gyda'r gwasanaeth hwnnw, anfonir llythyr sy'n crynhoi'r canlyniadau yn ôl at feddyg teulu'r claf.