Mae'r asesiad cychwynnol a'r apwyntiadau adolygu am ddim a'r argymhelliad cenedlaethol yw £2.50 y sesiwn ymarfer yn ystod yr 16 wythnos; gall y taliadau hyn amrywio ychydig yn lleol.
Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig sy'n ceisio gwella iechyd a lles oedolion llonydd ac anweithgar sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd ag un eisoes. Mae'n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol y GIG, gan ddefnyddio technegau newid ymddygiad i wreiddio arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.
Ar ôl eu hatgyfeirio, gwahoddir cleifion sy'n bodloni'r meini prawf i'w canolfan hamdden leol i gael asesiad cychwynnol gyda gweithiwr proffesiynol atgyfeirio ymarfer corff cymwysedig. Byddant yn cael cynnig rhaglen ymarfer corff wedi'i theilwra am 16 wythnos a bydd eu cynnydd yn cael ei adolygu ar adegau allweddol.
Canolfannau hamdden lleol ar draws Caerdydd a'r Fro.
Timau Iechyd a Ffitrwydd yn eich canolfannau hamdden lleol.
Gall unigolion sydd wedi cael eu hadnabod gan eu Ymarferydd Meddygol (e.e. Meddyg) fel rhai a allai fanteisio ar gymryd rhan mewn ymarfer corff fynychu. Mae diabetes yn cael ei ystyried yn rheswm dros atgyfeirio.
Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio gan weithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig y GIG (fel arfer eich Meddyg Teulu, Nyrs Practis neu Ffisiotherapydd/Nyrs sy'n benodol i gyflwr) a fydd â mynediad i wefan atgyfeirio NERS.