Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am Fwyta'n Iach

Mae gan Gymdeithas Ddeieteg Prydain Daflen Ffeithiau Bwyd ddefnyddiol am Ddiabetes Math 2.
Mae gan y wefan Pocket Medic ffilmiau byr llawn gwybodaeth am fwyta’n dda gyda Diabetes Math 2, gan gynnwys ‘Beth alla i ei fwyta?’, ‘Cyflwyno canllaw Bwyta'n Iach’, ‘Bwyta’n Iach'
Mae X-Pert yn gwrs 6 wythnos o addysg grŵp (sesiynau 2½ awr) i helpu i gynyddu eich gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o'ch diabetes, a'ch helpu chi i wneud dewisiadau ffordd o fyw i reoli eich lefelau glwcos yn y gwaed yn fwy effeithiol. Mae'r cwrs yn cynnwys llawer o wybodaeth am fwyta'n iach.
 

Mae cyrsiau coginio ymarferol lleol ar gael i helpu i ddatblygu sgiliau a hyder wrth baratoi prydau iach. Sylwch nad yw cyrsiau'n cynnwys gwybodaeth sy'n benodol i rai cyflyrau fel diabetes.

I ddarganfod mwy, ewch i wefan y Tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus, neu cysylltwch â'r tîm trwy e-bost: Nutrition.Skillsforlife.cav@wales.nhs.uk or Ffôn: 029 2090 7699 

Mae Newid am Oes yn wefan gyda rhai syniadau hawdd i fod yn ffit ac yn iach, gan gynnwys ryseitiau. Gallwch ymuno i dderbyn awgrymiadau a chyngor am ddim.
Mae gan wefan Bwyd Caerdydd lawer o wybodaeth am weithgareddau sy'n digwydd yn lleol i helpu i fwyta bwyd iach a chynaliadwy. Ewch i'r wefan i gael mwy o wybodaeth.

 

Dilynwch ni