Amcangyfrifir bod tua 850,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda dementia, sy'n gallu effeithio ar ddynion a menywod. Nid yw dementia'n rhan naturiol o heneiddio ac nid yw'n gyflwr sy'n effeithio ar bobl hŷn yn unig, er bod cysylltiadau cryf rhwng henaint a diagnosis o ddementia. Mae pobl dros 65 oed yn y perygl mwyaf o ddatblygu'r clefyd; ar hyn o bryd, mae un o bob 14 o bobl yn yr ystod oedran hon yn byw gyda dementia, ond mae dros 40,000 o bobl iau na 65 oed yn y Deyrnas Unedig yn byw gyda dementia.
Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn disgrifio dementia fel:
“Set o symptomau a allai gynnwys colli'r cof ac anawsterau wrth feddwl, datrys problemau neu ddefnyddio iaith. Mae'r newidiadau hyn yn aml yn fach i ddechrau, ond i rywun sydd â dementia maen nhw wedi dod yn ddigon difrifol i effeithio ar fywyd pob dydd. Gallai hwyliau neu ymddygiad rhywun sydd â dementia newid hefyd.”
Mae dementia'n cael ei achosi gan glefydau'r ymennydd ac mae profiad pob unigolyn yn unigryw. Mae gwahanol fathau o ddementia a fydd yn effeithio ar unigolion yn wahanol. Gall amgylchoedd unigolyn a sut mae pobl eraill yn ymateb iddo gael effaith fawr ar ba mor dda y mae'n byw gyda dementia.
Mae dementia yn golygu mwy na cholli'r cof; gallai symptomau cyffredin eraill gynnwys:
Fodd bynnag, mae'n bosibl i rywun sydd â dementia fyw bywyd egnïol a llawn pwrpas lle y gall barhau i wneud y pethau sy'n bwysig iddo. Gall diagnosis cynnar helpu pobl sydd â dementia i gael y driniaeth a'r cymorth iawn. Fe all hefyd helpu'r rhai sy'n agos atynt i baratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gyda thriniaeth a chymorth, mae llawer o bobl yn gallu byw bywydau egnïol, boddhaus.