Defnyddir eich gwybodaeth hefyd i helpu i reoli'r GIG wrth ddarparu gofal iechyd. Mae'n bosib y caiff ei defnyddio er mwyn:
- Adolygu'r gofal a roir i gleifion i sicrhau ei fod o'r safon uchaf posibl.
- Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynllunio i fodloni anghenion cleifion yn y dyfodol.
- Ymchwilio i gwynion, hawliadau cyfreithiol neu ddigwyddiadau pwysig.
- Sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu'n briodol i'r Bwrdd Iechyd i dalu am y gwasanaethau a ddarpara.
- Cael gwybod pa mor effeithiol fu'r GIG, ac adrodd am hyn.
- Sicrhau bod y GIG a'i wasanaethau'n rhoi gwerth am arian.