Mae'r wybodaeth yn yr adran hon ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o anaf orthopedig penodol ac sydd wedyn wedi cael eu hatgyfeirio at y Clinig Torasgwrn Rhithwir hwn. Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor o rywle arall os nad yw hyn yn wir.
Yn dilyn ymweliad â'r Adran Achosion Brys gydag anaf orthopedig, bydd eich atgyfeiriad a'ch pelydrau-x yn cael eu hadolygu gan feddyg ymgynghorol orthopedig. Mae hyn yn golygu y gellir trefnu apwyntiadau dilynol priodol os nodir hynny.
Nid oes angen triniaeth bellach ar lawer o anafiadau orthopedig. Yn yr achos hwn, bydd y Clinig Torasgwrn Rhithwir yn darparu gwybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i helpu'ch adferiad heb fod angen mynychu'r clinig trawma orthopedig yn bersonol. Gall hyn fod drwy alwad ffôn neu lythyr i'ch cyfeiriad. Efallai y cewch eich atgyfeirio at yr adran ffisiotherapi hefyd.
Os bydd angen apwyntiadau dilynol arnoch, yn dibynnu ar eich anaf, byddwch yn derbyn galwad ffôn, neges destun neu lythyr yn amlinellu'r camau nesaf. Bydd hyn yn amrywio o berson i berson. Yna dylech fynychu eich apwyntiad dilynol fel y trefnwyd. Os na allwch ddod, canslwch neu aildrefnwch yr apwyntiad.