Mae tudalen we y Clinig Torasgwrn Rhithwir yn cynnwys gwybodaeth a chanllawiau ar sut i reoli eich triniaeth. Mae'r wybodaeth yn yr adran hon ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o anaf orthopedig penodol ac sydd wedyn wedi cael eu hatgyfeirio at y Clinig Torasgwrn Rhithwir hwn. Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor o rywle arall os nad yw hyn yn wir.
Dilynwch y camau hyn:
- Cliciwch ar gwybodaeth am anafiadau a chynlluniau gofal.
- Dewiswch ardal yr anaf o'r rhestr.
- Dewiswch y math o anaf rydych chi wedi'i gael.
- Darllenwch yr holl wybodaeth a ddarperir yn ofalus, a gwyliwch unrhyw fideos ar gyfer eich cynllun triniaeth. Dylai'r rhain ateb y rhan fwyaf o'r cwestiynau sydd gennych. Os oes gennych gwestiwn penodol nad yw wedi’i gwmpasu, yna cysylltwch â ni.
- Edrychwch hefyd ar cyngor cyffredinol i gleifion.