Neidio i'r prif gynnwy

Sganiau ac Endosgopi

Y brif ffordd yr ydym yn ymchwilio neu’n monitro eich clefyd yw drwy sganiau CT ac MRI. Yn gyffredinol, gofynnir am y rhain mewn ysbyty sy’n lleol i chi.

 

Sgan CT

Efallai y gofynnir i chi gael prawf gwaed yn y cyfnod cyn eich sgan. Mae hyn yn dweud wrthym pa mor dda y mae eich arennau’n gweithio ac a allwch chi oddef y lliw cyferbyniol. Efallai y cewch ddiod i’w hyfed cyn y sgan i wella ansawdd y sgan. Efallai y bydd angen pigiad o liw arbennig arnoch hefyd i helpu gyda hyn.

 

Sgan MRI

Sgan magnetig yw hwn sy’n rhoi delweddau manwl o’r corff, yn enwedig ar gyfer yr afu a’r asgwrn cefn. Gall y sganiwr fod yn swnllyd ac efallai y cewch blygiau clust i’w gwisgo. Bydd staff yn siarad â chi drwy intercom. Mewn rhai sefyllfaoedd, ni all cleifion gael sgan MRI, ac os oes gennych unrhyw fetel yn eich corff, rhowch wybod i ni.

 

Sgan PET Gallium68

Argymhellir bod rhai cleifion yn cael sgan PET Gallium68 er mwyn i ni allu nodi holl leoliadau’r tiwmor. Mae hwn yn sgan arbenigol o’r corff cyfan sydd ddim ar gael yng Nghymru, ac mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio i Lundain (Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain (UCLH) ar hyn o bryd).

Os cewch eich atgyfeirio ar gyfer PET Gallium68, cysylltwch â’r CNSs NET gyda dyddiad eich apwyntiad fel y gallwn wneud cais am y canlyniad mewn modd amserol. Nid oes angen y sganiau hyn ar bob claf sydd â NETs.

Mae sgan tebyg sydd ar gael yn Ne Cymru yn sgan ‘Octreotide’ y gellid ei ddefnyddio fel dewis arall, er ei fod yn llai sensitif na PET Gallium68.

I gael gwybodaeth am deithio i UCLH, darllenwch isod.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol ar gyfer teithio, cliciwch yma.

 

Endosgopi

Ar gyfer rhai mathau o NETs (stumog, dwodenol, rhefrol), efallai y bydd angen endosgopi gastroberfeddol uchaf neu isaf (OGD, colonosgopi neu sigmoidosgopi hyblyg) fel triniaeth untro neu’n rheolaidd. Gall hyn ddigwydd mewn ysbyty sy’n agos atoch chi neu yn Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ysbyty Athrofaol Llandochau.

I gael rhagor o wybodaeth am driniaeth endosgopi, cliciwch yma i ddilyn y ddolen.

Dilynwch ni