Neidio i'r prif gynnwy

Profion Gwaed ac Wrin

Profion gwaed

Efallai y byddwn yn gofyn i chi gael profion gwaed, weithiau’n rheolaidd, i fonitro eich clefyd. Gellir gwneud rhai yn eich ysbyty lleol neu feddygfa, ond efallai y bydd angen gwneud rhai mewn ysbyty mawr gan fod angen iddynt gyrraedd y labordy’n gyflym. Byddwn yn eich cynghori pa opsiwn y mae angen i chi ei gymryd.

 

Casgliad wrin 24 awr

5-HIAA Wrinol (asid 5-hydroxyindoleacetig)

  • Mae 5-HIAA yn gynnyrch gwastraff o serotonin sy’n cael ei rhyddhau o’r corff mewn wrin. Rydym yn mesur hyn fel ffordd anuniongyrchol o fesur faint o serotonin sydd yn y corff. Gall serotonin gael ei ryddhau gan gelloedd NET, yn enwedig yn y rhai sydd â syndrom carsinoid.
  • Wrth gwblhau’r casgliad wrin 24 awr, mae cyfarwyddiadau i’w dilyn i sicrhau mesuriad cywir, megis osgoi bwydydd penodol. Gall y cyfarwyddiadau hyn amrywio rhwng byrddau iechyd felly gwiriwch gyfarwyddiadau’r Bwrdd Iechyd pan gewch y botel gasglu.
  • Mae’r cyfarwyddiadau casglu 5-HIAA ar gyfer Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i’w gweld yma.
  • Cwblheir casgliad 24 awr drwy basio eich wrin cyntaf o’r diwrnod i'r toiled yn ôl yr arfer, dyma'ch amser cychwyn, yna mae pob wrin sy’n cael ei basio ar ôl hyn hyd at yr un amser y bore nesaf yn cael ei gasglu i mewn i’r botel.
Dilynwch ni