Neidio i'r prif gynnwy

Dolur rhydd Asid Bustlog

Gall camamsugniad asid bustlog arwain at nifer o symptomau; mae’n bosibl mai dim ond rhai ohonynt fydd gennych chi. Gall olygu bod eich coluddyn yn gweithio mewn ffordd anodd ei ragweld ac anghyson gan arwain at angen brys wrth i’ch coluddyn agor a’r angen i fynd yn amlach. Weithiau, mae carthion yn welw ac yn seimllyd a gallant fod yn anodd eu fflysio. Efallai y byddwch hefyd yn profi poen yn yr abdomen tebyg i gramp, colli pwysau neu wynt drewllyd.

Mae Camamsugniad Asid Bustlog yn cael ei ddiagnosio trwy gael sgan penodol, o'r enw sgan SeHCAT. Mae'r daflen gyngor hon yn esbonio beth yw'r sgan, sut mae'n cael ei gynnal a sut y gallwch baratoi ar gyfer sgan.

Am ragor o wybodaeth am beth yw camamsugniad asid bustlog, sut mae'n cyfrannu at eich symptomau a sut y caiff ei drin orau, darllenwch y daflen gyngor hon.

Dilynwch ni