Mae’r pancreas yn organ yn y corff sy’n cynhyrchu ensymau treulio. Mae’r ensymau hyn yn gemegion sy’n helpu i chwalu brasterau, protein a charbohydradau startshlyd yn y deiet. Gall pobl â NETs gael trafferth yn cynhyrchu’r ensymau hyn yn iawn o ganlyniad i lawdriniaeth, y NET neu’r driniaeth maen nhw arni. Heb yr ensymau hyn, ni all eich corff amsugno’r holl faetholion o fwyd.
Os ydych chi'n cael trafferth cynhyrchu'r ensymau hyn, efallai y byddwch yn cael atchwanegiad ensym pancreatig ar bresgripsiwn, a fydd yn gweithredu fel yr ensymau ac yn torri'r bwyd i lawr i chi. Gellir dod o hyd i gyngor ar yr atchwanegiadau hyn a sut i'w cymryd drwy glicio yma.