Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Iechyd Meddwl

Mae cymorth seicolegol ar gael i bobl sy'n byw gyda diagnosis NET yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.

Mae rhai byrddau iechyd yn cynnig gwasanaeth seicoleg glinigol arbenigol sy'n darparu asesiad seicolegol, ac ymyrraeth i bobl sydd â diagnosis o ganser. Gallant fod yn ddefnyddiol os ydych yn cael trafferth ymdopi â'ch diagnosis neu â phroblemau sy'n codi oherwydd eich NET.  Gall apwyntiadau fod wyneb yn wyneb, neu dros y ffôn/fideo. Cysylltwch â'ch CNS am fwy o wybodaeth.

 

Yn anffodus, nid yw pob bwrdd iechyd yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn ond efallai y bydd gwasanaethau eraill i'ch helpu:

  • Gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at wasanaeth cwnsela gofal sylfaenol lleol (os yw ar gael).
  • Mae Canolfannau 'Maggie's' Caerdydd ac Abertawe yn darparu cefnogaeth emosiynol a seicolegol mewn sawl ffordd sy'n cynnwys gweithgareddau grŵp, gweithwyr cymorth canser a grwpiau cymorth i gleifion.  Mae seicolegydd clinigol hefyd yn gweithio yn 'Maggie's' ac yn cynnig ymyriadau grŵp.  (Noder mai gwasanaeth hunanatgyfeirio yw hwn, nid ydynt yn cymryd atgyfeiriadau gan eich tîm clinigol).
  • Mae’r wefan 'Cadw Fi'n Iach' https://keepingmewell.com/ a ysgrifennwyd gan seicolegwyr sy'n gweithio ym maes Gofal Canser yng Nghaerdydd a'r Fro yn agored i bawb ac mae ganddi adran ar anghenion seicolegol ac emosiynol.  Mae'n cynnig ystod o wybodaeth hunangymorth sydd â'r bwriad o gefnogi'r rhai sy'n cael triniaeth canser ac sy'n byw gydag effaith canser ar ôl triniaeth.
  • Drwy Bupa, mae Macmillan yn cynnig hyd at chwe sesiwn cwnsela am ddim i bobl sy'n cael trafferthion emosiynol oherwydd canser. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau cwnsela am ddim ar wefan Macmillan, neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 08088080000. 
  • Mae NCUK yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim i gleifion, teulu a ffrindiau. Mae gan y cwnselwyr wybodaeth arbenigol am y materion cymhleth sy'n digwydd o ganlyniad i gael diagnosis o NETs a byw gyda nhw. E-bostiwch nc-ukcounselling@rareminds.org
  • Mae elusen Tenovus yn cynnig hyd at chwe sesiwn cwnsela i rai rhanbarthau yng Nghymru
  • Mae cleifion yn ardal Abertawe yn cael mynediad at gwnsela am ddim gan elusen CISS https://www.cancersupport.wales/our-services/emotional-support-counselling/.
Dilynwch ni