Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Ffisiotherapi'r Ganolfan FfS

Becky Mills-Bennett - Ffisiotherapydd Arweiniol

Sarah Caunter - Uwch Ffisiotherapydd Cleifion Mewnol

Angharad Rees - Uwch Ffisiotherapydd Cleifion Allanol / Cymunedol

Carwyn Bridges - Ffisiotherapydd Cyhyrysgerbydol Arbenigol a Chleifion Allanol

Steve Howard - Technegydd Ymarfer

Vicki Angulatta - Cynorthwyydd ffisiotherapi
 

 
  • Gallwn asesu eich iechyd resbiradol a'ch helpu i gofnodi gweithrediad eich ysgyfaint; byddwn fel arfer yn gwneud hyn ym mhob clinig a phob yn ail ddiwrnod os oes angen cwrs o wrthfiotigau mewnwythiennol arnoch.
  • Byddwn yn eich cynghori ar eich technegau clirio llwybr anadlu; gallwn ddysgu technegau newydd i chi, helpu i werthuso eich techneg gyfredol a'i gwneud mor effeithiol â phosibl, a'ch helpu i geisio gwneud lle iddi yn eich ffordd o fyw.
  • Gallwn gynghori ar amseriadau eich nebiwlydd a mewnanadlyddion a'r technegau ar gyfer eu cymryd er mwyn eu helpu i fod mor effeithiol i chi ag sy'n bosibl.
  • Gallwn fesur eich gallu i ymarfer corff a'ch cynghori ar fathau ac amseriadau priodol o ymarfer corff i'ch helpu i gyrraedd eich nodau ymarfer. Gallwn hefyd gynnig ymarfer corff ichi'n ddyddiol fel claf mewnol, yn wythnosol fel claf allanol yn ein campfa neu gysylltu drwy rith-safle yn rheolaidd yn ôl yr amser a'r lleoliad sy'n gyfleus i chi. 
  • Gallwn eich cynghori ar eich osgo a sut i'w gadw'n dda.
  • Gallwn drin doluriau a phoenau cymalau/cyhyrau petaech chi'n cael eich anafu.
  • Gallwn asesu a thrin eich sinysau os ydych yn cael problemau gyda hwy.
  • Gallwn asesu a thrin problemau anymataliaeth.
  • Gallwn ymweld â chi am asesiad gartref mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r materion hyn os ydych yn byw o fewn awr o daith yrru i'r ganolfan. Os na, gallwn gysylltu ar y rhyngrwyd.
  • Gallwn hefyd roi taflenni gwybodaeth ichi am bob agwedd ar ffisiotherapi, ymarfer corff, anymatal wrinol, nebiwlyddion, therapïau drwy nebiwlydd, ocsigen atodol, a phrofion i asesu gweithrediad ysgyfeiniol, ymarfer corff, problemau cyhyrysgerbydol, clirio llwybr anadlu, sinysau ac osgo. Mae'r rhain ar gael yn ein hardaloedd ward a chlinig. Os nad allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, cofiwch holi a gallwn roi neu anfon unrhyw rai o'r taflenni hyn atoch. 

Ein nod yw eich helpu chi i fyw bywyd llawn a gweithgar drwy gydol pob cyfnod o Ffibrosis Systig a chwtogi cymaint â phosibl ar effaith y triniaethau sy'n helpu i alluogi hyn i ddigwydd. 

Cysylltwch â Ni

  • 029 20716841
  • 029 20716256
  • 029 20715949

Fel arall ffoniwch 029 20711711 a gofyn am blip 4989

Dilynwch ni