Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi ar gyfer bronciectasis

Mae ffisiotherapi yn rhan bwysig o reoli bronciectasis. Os byddwn yn rhoi diagnosis o bronciectasis i chi, byddwn yn trafod cynllun triniaeth penodol. Bydd hwn yn cael ei deilwra i chi’n bersonol, yn seiliedig ar yr hyn a fydd fwyaf buddiol i chi. 

Efallai y byddwn yn dysgu technegau clirio’r llwybr anadlu (ACT) i chi, a all gynnwys ymarferion draenio trwy osgo (PD). Mae’r rhain yn cynnwys gorwedd ar bob ochr a pherfformio ymarferion anadlu sy’n helpu i ddraenio fflem. 

Dylech wneud yr ymarferion hyn unwaith neu ddwywaith y dydd am o leiaf 20 munud y sesiwn. Wrth glirio’r llwybr anadlu yn rheolaidd, byddwch yn pesychu mwcws a allai gasglu yn yr ysgyfaint fel arall. Mae hyn yn atal haint ac yn golygu eich bod yn llai tebygol o besychu mwcws ar adegau eraill o’r dydd.

Ymarfer corff

Mae ymarfer corff mewn unrhyw ffurf hefyd yn helpu’r ysgyfaint i glirio mwcws ac yn gwella ffitrwydd cyffredinol. Mae amrywiaeth o ymarferion, a elwir yn dechnegau clirio’r llwybr anadlu, a all helpu i dynnu mwcws o’ch ysgyfaint. 

Yn aml, gall hyn helpu i wella peswch a diffyg anadl mewn pobl â bronciectasis.

Ffisiotherapi

Dilynwch ni