Croeso i'r gwasanaeth hwb arbenigol ar gyfer Cyfathrebu Amgen ac Ychwanegol cymhleth (AAC) - yr Hwb AAC. Rydym yn dîm amlddisgyblaethol, yn rhan o Wasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig Cymru (EATS) wedi'i leoli yn Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd.
Mae'r Hwb AAC yn darparu:
Gwasanaethau AAC arbenigol teg ledled Cymru ar gyfer plant ac oedolion ag anghenion cyfathrebu cymhleth.
Asesu a darparu integredig o offer uwch-dechnoleg ar gyfer anghenion cyfathrebu a rheolaeth amgylcheddol.
Asesu, adolygu, treialu offer yn briodol, adolygu treialon, darparu offer.
Lle bo hynny'n briodol, systemau AAC uwch-dechnoleg fel benthyciad tymor hir i Ddefnyddwyr Gwasanaeth.
Cefnogaeth a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol lleol ac eraill sy'n cefnogi'r defnydd o'r offer.
Rydym yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol o fyrddau iechyd ledled Cymru sy'n gwneud atgyfeiriadau i ni ac yn parhau i gefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth. Dyma adeiniau ein hwb, ac rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos iawn gyda nhw.
Un rhan yn unig o'r Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig yw cymhorthion cyfathrebu cymhleth. Rydym hefyd yn darparu dyfeisiau a chefnogaeth ar gyfer rheolaeth amgylcheddol, mynediad at gyfrifiaduron a symbylu trydanol swyddogaethol.
Bydd ein hasesiadau a'n darpariaeth ar gyfer technoleg gynorthwyol yn cwmpasu'r anghenion am gyfathrebu a rheolaethau amgylcheddol mewn ffordd integredig.