I dderbyn asesiad ac offer gan y gwasanaeth, rhaid i berson gwrdd â'n meini prawf cymhwysedd a chael ei atgyfeirio gan weithiwr iechyd proffesiynol sydd wedi'i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Os ydych chi'n weithiwr iechyd proffesiynol sy'n ystyried gwneud atgyfeiriad, edrychwch trwy'r wybodaeth am y llwybr gofal, meini prawf a'r ffurflen atgyfeirio.
Pan ydych yn barod, argraffwch a chwblhewch y ffurflen atgyfeirio a'i hanfon atom.
Mae'r ffurflen yn gofyn am wybodaeth eithaf manwl. Mae hyn er mwyn ein helpu i flaenoriaethu ein hymatebion ac anfon y staff a'r offer mwyaf priodol allan ar gyfer yr asesiad cychwynnol. Gwneir y mwyafrif o asesiadau cychwynnol yng nghartref yr unigolyn neu mewn man cyfarwydd fel ei ysgol. Mae hyn fel arfer yn golygu bod nifer o'n staff yn teithio.
Os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd ac yn credu y gall y tîm eich helpu gydag anawsterau cyfathrebu, cysylltwch â'ch gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith lleol. Byddant yn asesu eich sefyllfa a byddant yn eich atgyfeirio atom os yw'n briodol.