Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau COVID-19 ac RSV y Gwanwyn 2026

Mae dau frechlyn pwysig yn cael eu cynnig y gwanwyn hwn, ac rydym am sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn cael yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt.

Anfonir gwahoddiadau i dderbyn y brechlyn COVID-19 at:

  • oedolion 75+ oed
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
  • pobl chwe mis oed neu hŷn sy'n imiwnoataliedig

Anfonir gwahoddiadau i dderbyn y brechlyn RSV at:

  • pobl 75+ oed
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn
  • menywod beichiog

Gall cael eich brechu leihau eich risg o salwch difrifol a gorfod mynd i'r ysbyty o ganlyniad i RSV a COVID-19. Cadwch lygad am eich llythyr gwahoddiad a manteisiwch ar y cynnig pan ddaw.

Beth yw COVID-19?

  • Mae COVID-19 yn glefyd heintus a achosir gan feirws. Mae pobl hŷn a'r rhai â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, clefyd anadlol cronig, neu ganser yn fwy tebygol o ddatblygu salwch difrifol.
  • Mae'r brechlyn COVID-19 yn dal i gael ei gynnig gan fod feirysau'n newid ac mae amddiffyniad yn pylu dros amser. Mae'n bwysig ychwanegu at eich amddiffyniad os ydych chi'n gymwys.

Beth yw RSV?

  • Mae Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn glefyd heintus ac yn achos cyffredin o heintiau'r llwybr anadlol.
  • Mewn oedolion hŷn, gall RSV achosi problemau anadlu difrifol, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n fregus neu sydd â chyflyrau iechyd eraill. Gall haint RSV achosi niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) neu hyd yn oed farwolaeth.

Gall COVID-19 ac RSV ledaenu rhwng pobl. Ewch i gael eich brechu a'ch amddiffyn chi a'ch anwyliaid y gwanwyn hwn.

Os oes gennych gwestiynau am y brechlyn neu'ch apwyntiad, cysylltwch â Chydlynwyr Imiwneiddio BIP Caerdydd a'r Fro drwy e-bostio Immunisations.Co-Ordinators.Cavuhb@wales.nhs.uk neu ffonio 07980991088 / 0797411570.

I gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau, chwiliwch am ‘Brechiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru’ ar-lein neu ewch i phw.nhs.wales/vaccines.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni