Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin ar gyfer plant/pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr sydd eisoes yn cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl

Mae pandemig y Coronafeirws wedi golygu y bu'n rhaid i wasanaethau CAMHS newid eu ffordd o weithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau bod modd cael cymorth yn ddiogel.

Newidiadau allweddol y gallech eu gweld wrth ddefnyddio gwasanaethau CAMHS:

  • Mae atgyfeiriadau newydd yn cael eu derbyn ar hyn o bryd.
  • Bydd mwy o apwyntiadau ac asesiadau'n cael eu cwblhau'n rhithwir neu dros y ffôn. Gweler https://cavuhb.nhs.wales/our-services/video-consultation/ i gael rhagor o wybodaeth.
  • Os byddwch yn mynd i apwyntiad ar y safle, gofynnir i chi wisgo masg, golchi neu ddiheintio'ch dwylo ac aros 2 fetr i ffwrdd oddi wrth yr unigolyn agosaf. Sylwch y bydd apwyntiadau'n cael eu rhoi ar y safle dim ond os oes angen clinigol ac nid oes modd darparu ymyrraeth therapiwtig o bell.
  • Mae'r pandemig wedi achosi rhywfaint o oedi o ran mynediad a chyfathrebu. Efallai y byddwch yn gorfod aros yn hirach ar gyfer asesiad a chymorth. Fe allai hefyd gymryd mwy o amser i ni ymateb i rai o'ch ymholiadau.
  • Os bydd asesiad yn dangos bod arnoch angen cymorth brys, byddwch yn cael eich gweld o fewn 24 awr.
  • Os oes angen i chi siarad ag aelod o'ch Tîm CAMHS lleol, gallwch ffonio'ch canolfan blant leol i gael gwybodaeth a chyngor.
  • Ewch i'r wefan Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl i gael diweddariadau am wasanaethau, gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol.

Gwybodaeth i blant a phobl ifanc


Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Rydym yn byw mewn cyfnod anodd ac ansicr, sy'n achosi i lawer ohonom deimlo dan straen ac wedi'n llethu. Mae'n adeg ofidus i lawer o rieni a gofalwyr sy'n pryderu am effaith y pandemig ar les emosiynol eu plant. Ond mae yna ffyrdd y gallwn gynorthwyo ein plant a'n pobl ifanc i roi'r cyfle gorau iddynt aros yn iach yn feddyliol yn ystod y cyfnod anodd hwn.  

Bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i gynorthwyo'ch plentyn a gwybod sut i gael cymorth.

Mae tua 1 o bob 8 o blant a phobl ifanc yn cael problemau ymddygiadol neu emosiynol wrth iddynt dyfu. I lawer, bydd y rhain yn gwella ymhen amser, ond bydd angen cymorth proffesiynol ar eraill.

Fel rhiant, fe all fod yn anodd iawn gwybod a oes rhywbeth sy'n gofidio'ch plentyn, neu efallai a yw'n hwyliau ansad neu'n arwydd o newid hormonaidd/datblygiadol. Mae ffyrdd o sylwi pan fydd rhywbeth o'i le. Dyma rai pethau i gadw llygad amdanynt:

  • Newidiadau sylweddol mewn ymddygiad, sy'n groes i gymeriad eich plentyn.
  • Trafferth barhaus i gysgu a chyfnodau o ludded yn ystod y dydd.
  • Mynd i'w gragen a thynnu'n ôl o sefyllfaoedd cymdeithasol.
  • Dim eisiau gwneud y pethau y byddai'n hoffi eu gwneud fel arfer.
  • Hunan-niweidio. Gallai hyn gynnwys gwneud cytiau bach trwy grafu neu ddefnyddio rhywbeth miniog, tynnu gwallt allan, pwl ymosodol o'i ddyrnio a'i daro ei hun.
  • Ei esgeuluso ei hun, dim eisiau ymolchi, glanhau ei ddannedd na newid ei ddillad mwyach.
  • Newid mewn arferion bwyta, amharodrwydd i fwyta, cuddio bwyd neu orfwyta ac yna bod yn sâl neu chwydu.
  • Mynegi teimladau o bryder yn rheolaidd, dim eisiau cael ei wahanu oddi wrth riant neu ofalwr, dim eisiau mynd i'r ysgol mwyach na gadael y tŷ yn aml.    

Y peth pwysicaf i'w gofio yw chi sy'n adnabod eich plentyn orau. Os ydych yn poeni, meddyliwch a fu newid sylweddol yn ei ymddygiad sydd wedi para am gyfnod hir. Gallai hyn fod gartref, yn yr ysgol neu'r coleg; gydag eraill neu ar ei ben ei hun; neu mewn perthynas â digwyddiadau neu newidiadau penodol yn ei fywyd, gan gynnwys newidiadau a achoswyd gan y pandemig.

Os ydych yn pryderu neu'n ansicr, mae llawer o gymorth ar gael, gan gynnwys cymorth proffesiynol. Mae www.dewis.wales yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal. Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'ch Canolfan Blant leol. Mae safleoedd eraill defnyddiol yn cynnwys:

Dyma rai safleoedd ac adnoddau defnyddiol ar gyfer eich plentyn:

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Person Ifanc Hwb

Fe welwch chwe rhestr chwarae yma i'ch cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu trwy'r cyfnod clo a thu hwnt. Mae pob un o'r rhestrau chwarae'n cynnwys gwefannau hunangymorth, apiau, llinellau cymorth a mwy sydd ar gael i gefnogi'ch iechyd meddwl a'ch lles. https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/e53adf44-76cb-4635-b6c2-62116bb63a9a/en?_ga=2.151518460.459291157.1604913013-1431377124.1568902089

CALM HARM: Ap symudol i helpu pobl yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r awydd i hunan-niweidio (Am ddim)

 

 

 

CHILDLINE: www.nspcc.org.uk 0800 1111

HARMLESS: Mae'n cynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch pobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio neu'n meddwl am wneud hynny. www.harmless.org.uk

YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk  0808 802 5544

SELF HARM UK: Mae'n cynnig lle ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau am bryderon yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk

RETHINK MENTAL ILLNESS: www.rethink.org 
0300 5000 927

Y Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol: Mae'r NSHN yn fforwm ar-lein sy'n caniatáu i chi siarad â phobl eraill mewn amgylchedd diogel sy'n cael ei reoli.  www.nshn.co.uk

THE MIX: 0808 808 4994

PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk

YOUNGMINDS CRISIS MESSENGER: Tecstiwch YM i 85258 i gael cymorth am ddim 24/7

HEADSPACE: Ap ymwybyddiaeth ofalgar sy'n cynnwys llawer o wahanol raglenni i gefnogi iechyd meddwl.

SANE: Mae Saneline ar gael o 4.30pm tan 10.30pm bob dydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl 0300 304 7000

WELLMIND: Datblygwyd yr ap hwn gan y GIG ac mae'n helpu gyda symptomau gorbryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o gadw golwg ar eich meddyliau a'ch teimladau.

CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn wych i fonitro meddyliau ac emosiynau anodd, pryd rydych chi'n eu profi a ble.

THE STRESS AND ANXIETY COMPANION: Mae'r ap hwn yn annog meddwl yn gadarnhaol trwy ei broses therapi gwybyddol ymddygiadol syml ac mae'n eich helpu i ddeall sbardunau.

THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu eich meddyliau a deall eich emosiynau.

MEIC: MEIC yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i gael cymorth i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan fydd neb arall. Ni fyddwn yn eich beirniadu a byddwn yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth y mae arnoch ei angen i newid - https://www.meiccymru.org/

Mind: http://www.mind.org.uk/

 

Byddwch yno i wrando

Mae'n bwysig gofyn i'ch plentyn yn rheolaidd sut mae'n teimlo, er mwyn iddo ddod yn gyfarwydd â siarad am ei deimladau a gwybod bod rhywun yno i wrando bob amser os yw eisiau siarad. Gall creu lle difyr helpu yn hyn o beth. Mae rhai rhieni'n gweld bod eu plant yn gallu bod yn fwy agored am eu teimladau yn ystod gweithgareddau. Gallai hyn gynnwys pobi, celf a chrefft, chwaraeon, gemau bwrdd, darllen storïau a siarad amdanyn nhw wedi hynny.

Y peth pwysig yw ceisio ymgysylltu â'ch plentyn a rhoi eich amser iddo heb i unrhyw beth dynnu'ch sylw. Bydd rhoi sylw i'w emosiynau a'i ymddygiad yn eich helpu i nodi newidiadau pwysig a deall ei anghenion yn well.

Byddwch yn rhan o'i fywyd

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gweld bod eu hyder yn cynyddu a'u bod yn teimlo bod cefnogaeth iddynt pan fydd rhiant yn dangos diddordeb yn eu bywyd a'r pethau sy'n bwysig iddynt. Mae hynny nid yn unig yn eu helpu i werthfawrogi pwy ydynt ond hefyd yn ei gwneud yn haws i chi sylwi ar broblemau a'u cynorthwyo.

Anogwch ei ddiddordebau

Un o'r ffyrdd gorau o helpu i gadw iechyd emosiynol eich plentyn ar y trywydd iawn yw trwy ei gefnogi i aros yn egnïol, dysgu sgiliau newydd a chadw mewn cysylltiad â'i gymuned a'i ffrindiau. Gan ein bod yn treulio mwy o amser gyda'n gilydd gartref, mae'n gyfle gwych i siarad â'ch plentyn am ei ddiddordebau a beth mae'n ei fwynhau. Yna gallwch feddwl am ffyrdd o'i gefnogi â'r diddordebau hynny. Yn aml iawn, nid oes rhaid i'r pethau hyn fod yn ddrud, ac mae'n debygol y bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthych beth sydd ar gael am ddim ac am bris rhesymol yn eich ardal. Bydd gan ysgolion, colegau a'ch awdurdod lleol syniadau da hefyd neu efallai gallant gael gafael ar bethau a fydd yn cefnogi diddordebau eich plentyn.

Ystyriwch yr hyn mae'n ei ddweud o ddifrif

Mae gwrando ar eich plentyn a gwerthfawrogi'r hyn mae'n ei ddweud, heb feirniadu ei deimladau, yn gwneud iddo deimlo'n werthfawr ac yn cynyddu ei ymddiriedaeth a'i hyder yn eich perthynas. Nid yw hyn bob amser yn rhwydd. Weithiau, pan fydd eich plentyn yn disgrifio sut mae'n teimlo, fe all hynny fod yn anodd ei glywed, neu'n anodd ei dderbyn hyd yn oed. Yn enwedig pan fyddwn ni'n ei glywed am y tro cyntaf. Y peth pwysig yw peidio ag ymateb yn syth na diystyru teimladau'r plentyn, ond gwrando'n ddigyffro a dangos eich bod yn cymryd sylw ac eisiau helpu. Mae'n beth da siarad am y rhesymau pam y gallai fod yn teimlo fel yna, ond cofiwch nid yw llawer o blant a phobl ifanc yn gwybod pam, ond maen nhw'n gwybod sut maen nhw'n teimlo. Mae'n beth da siarad am beth maen nhw'n credu allai helpu a beth rydych chi'n credu fydd yn helpu, a rhai pethau y gallwch roi cynnig arnynt. Weithiau, gall siarad a llunio cynllun wneud gwahaniaeth mawr i'ch plentyn.

Mae'n beth da gofyn i'ch plentyn sut mae'n teimlo, ond ceisiwch adael iddo ef benderfynu faint i'w rannu. Mae'n anodd taro cydbwysedd, ond gall gofyn gormod o gwestiynau beri i blentyn fod yn amharod i rannu, felly gadewch iddo ef arwain a chynigiwch gyfleoedd rheolaidd heb unrhyw bwysau.

Sefydlwch arferion cadarnhaol

Rydym yn gwybod nad yw'n rhwydd creu arferion a strwythur ar hyn o bryd gan fod y cyfnodau clo rheolaidd a'r angen i hunanynysu yn gallu tarfu ar ein harferion. Ond mae gwaith ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o blant yn teimlo'n well pan fydd trefn arferol gadarnhaol ar waith. Gall arferion a strwythurau gefnogi lles plentyn ac annog ymddygiad cadarnhaol. Lle da i gychwyn yw ailgyflwyno arferion rheolaidd gartref yn ymwneud â bwyta'n iach ac ymarfer corff. Mae noson dda o gwsg yn bwysig iawn hefyd - ceisiwch ei annog i ddychwelyd i arferion sy'n cyd-fynd â'r ysgol neu'r coleg.

Gofalwch am eich iechyd meddwl eich hun

Gall magu neu ofalu am blentyn neu berson ifanc fod yn anodd ar brydiau. Mae'n bwysig iawn gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun, gan y bydd hyn yn eich helpu i gefnogi'r rhai rydych yn gofalu amdanynt.

Mae adnabod a chydnabod pan fyddwch yn teimlo'n isel neu wedi'ch llethu yn gam cyntaf pwysig. Nid yw cael trafferth gyda rhywbeth neu brofi'ch problemau iechyd meddwl eich hun yn golygu eich bod yn rhiant neu'n ofalwr gwael.

Mae'n berffaith naturiol bod yn bryderus yn ystod cyfnodau anodd. Y peth pwysig yw eich bod yn cydnabod hyn. Fe allech fod yn teimlo'n orflinedig, yn emosiynol ac yn bryderus, ac os yw'r teimladau hyn yn parhau fe allai fod yn bryd meddwl am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl yn well. Gallai hyn gynnwys cael cymorth proffesiynol. Rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth isod a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Mae'r Pum Cam tuag at Les yn amlinellu camau syml y gallwn ni i gyd eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles. Gallwch hefyd ddarllen 'awgrymiadau da ar gyfer bywyd pob dydd' ar wefan yr elusen iechyd meddwl MIND a dod o hyd i ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl.

Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig COVID-19 yma: https://phw.nhs.wales/services-and teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/.  

Fe allai hefyd fod yn ddefnyddiol siarad â ffrind, rhiant neu ofalwr arall rydych yn ymddiried ynddo digon i rannu eich teimladau. Efallai y gallai aelod o'r teulu, ffrind neu gydweithiwr eich helpu neu ganiatáu i chi gael seibiant? Mae digon o gymorth ar gael. Ni ddylech fyth deimlo bod rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun. Gweler ein cwestiynau cyffredin am Iechyd Meddwl Oedolion yma: Cwestiynau cyffredin i oedolion sy'n ceisio cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl am y tro cyntaf.

Fe all fod yn anodd dechrau sgwrs, yn enwedig os ydych yn pryderu am eich plentyn a sut gallai fod yn teimlo. Y peth pwysig yw rhoi cyfle i'ch plentyn siarad os yw eisiau. Nid oes gwahaniaeth beth yw pwnc dechreuol y sgwrs - y peth pwysig yw'r cyfle y mae'n ei roi i'r ddau ohonoch siarad am deimladau a rhoi cysur. 

Dyma rai syniadau ynghylch sut i ddechrau sgwrs:

  • Sut wyt ti'n teimlo?
  • Beth wyt ti eisiau siarad amdano? 
  • Beth oedd y rhan orau a'r rhan waethaf o dy ddiwrnod?
  • Petaet ti'n gallu dechrau heddiw eto, beth fyddet ti'n ei wneud yn wahanol? 
  • Beth wnest di heddiw rwyt ti'n fwyaf balch ohono?

Wrth ddechrau sgwrs, mae llawer o rieni'n credu ei bod yn ddefnyddiol dewis pwnc maen nhw'n gwybod y byddai gan eu plentyn ddiddordeb ynddo. Gallai fod yn gân newydd sy'n sôn am emosiynau, cylchgrawn sy'n cynnwys erthygl ddiddorol, ffilm a wylioch chi gyda'ch gilydd yn ddiweddar, neu stori mewn opera sebon neu raglen deledu. Mae hyn yn rhoi llai o bwyslais ar y plentyn ac yn aml yn arwain at sgyrsiau naturiol am deimladau. Fel y soniwyd uchod, gall gwneud gweithgaredd difyr gyda'ch gilydd helpu hefyd ac mae'n creu amgylchedd hamddenol a chyfforddus i ddechrau'r sgwrs.

Diolchwch iddo am rannu beth sy'n digwydd gyda chi. Anogwch ef i fod yn agored ac yn onest trwy ddweud bod hynny'n beth cadarnhaol iawn a chydnabyddwch sut mae'n teimlo.

Dywedwch wrtho eich bod yn ei garu, eich bod yno i'w gefnogi a'i fod yn gallu siarad â chi. Rydych yn gwrando ac yn barod i helpu a gwrando mwy pan fydd angen hynny arno.

Gofynnwch a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i helpu neu unrhyw beth y gall rhywun arall ei wneud i helpu.

Treuliwch amser gyda'ch gilydd yn meddwl am beth sy'n gwneud iddo deimlo fel hyn. Trafodwch a oes unrhyw newidiadau a allai fod wedi gwneud iddo deimlo fel hyn a meddyliwch am y pethau y gallwch eu gwneud i helpu.

Rhowch wybod i'ch plentyn am y llinellau cymorth, y llinellau neges destun a'r gwasanaethau sgwrsio ar-lein sydd ar gael os oes angen iddo siarad â rhywun o'r tu allan i'r teulu. Mae rhestr o'r rhain ar gael uchod yn yr adran Plant a Phobl Ifanc.

Os ydych yn credu bod angen cymorth proffesiynol ar eich plentyn i deimlo'n well, gallwch siarad ag ysgol neu feddyg teulu eich plentyn, a fydd yn gallu eich cynghori ar sut i gael gwasanaethau iechyd meddwl. Gyda'ch gilydd, gallwch drafod p'un a oes angen atgyfeiriad i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), asesiad gan arbenigwr iechyd meddwl, neu atgyfeiriad ar gyfer cymorth o fath arall. Gallwch siarad â'ch meddyg teulu, ysgol neu ganolfan blant leol gyda'ch plentyn neu hebddo.

CAMHS yw'r enw ar wasanaethau'r GIG sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc gyda'u lles emosiynol a'u hiechyd meddwl.

Mae gwasanaethau CAMHS y GIG ar gael ledled Cymru, gyda thimau lleol sy'n cynnwys staff cyfeillgar a chefnogol. Bydd yr aelodau staff hyn yn cynnwys nyrsystherapyddionseicolegwyr, seiciatryddion plant a'r glasoed (meddygon sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl), gweithwyr cymorth a gweithwyr cymdeithasol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill.

Mae CAMHS yn darparu cymorth ar gyfer llawer o wahanol fathau o gyflyrau neu faterion y gall plant a phobl ifanc eu profi, gan gynnwys iselderproblemau â bwydhunan-niweidiocamdriniaeth, trais neu ddicteranhwylder deubegynolsgitsoffrenia a gorbryder, ymhlith anawsterau eraill.

Os oes angen cymorth emosiynol ar eich plentyn a help i wneud synnwyr o'i deimladau, fe allai elwa o weld cwnselydd neu therapydd. Efallai y gallwch gael y gwasanaeth hwn am ddim trwy eich meddyg teulu neu ysgol eich plentyn. Os gallwch ei fforddio, fe allech ystyried cwnselydd plentyn preifat hefyd. Cysylltwch â'ch tîm CAMHS lleol i gael gwybod mwy am gael gwasanaethau cwnsela.

Ydy gwasanaethau CAMHS ar gael o hyd?

Mae ein gwasanaeth CAMHS wedi parhau i weithio gyda phlant a phobl ifanc ers dechrau pandemig y coronafeirws. Bu angen i ni newid y ffordd rydym yn cynnal ein gwasanaeth i gydymffurfio â rheolau'r Llywodraeth. Rydym yn dechrau cynorthwyo llawer o'r bobl ifanc rydym yn eu gweld naill ai trwy ymgynghoriadau rhithwir neu dros y ffôn. Pan fu angen clinigol i weld rhywun yn bersonol, rydym wedi gwneud hyn, gan ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol.

Rydym wedi cynnal nifer o asesiadau risg ym mhob un o'n clinigau ac wedi dechrau cyflwyno mwy o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb lle nad oes modd darparu ymyrraeth therapiwtig o bell. Fodd bynnag, mae angen i'r GIG barhau i ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol, ac mae'n ofynnol yn genedlaethol i bob ymgynghoriad gael ei gynnal o bell oni bai bod angen clinigol iddo gael ei gynnal wyneb yn wyneb. Mae hyn yn golygu nad yw'r un faint o bobl ag arfer yn gallu bod yn y clinigau, ac felly mae angen i ni flaenoriaethu pa bobl ifanc i'w gweld yn bersonol. Gall hyn achosi oedi anochel a mwy o amser aros. Gofynnwn i unrhyw un sy'n cysylltu â'n gwasanaethau fod yn ystyriol o'n staff y mae angen iddynt wneud penderfyniadau anodd ar yr adeg hon ac sy'n gweithio'n ddiflino i weld cynifer o blant a phobl ifanc â phosibl. 

I wneud yn siŵr ein bod yn dilyn canllawiau'r llywodraeth, rydych yn debygol o weld rhai newidiadau pan fyddwch yn ymweld â ni nesaf. Dyma rai negeseuon allweddol:

  • PEIDIWCH â dod i safle Canolfan Blant oni bai y dywedwyd wrthych chi'n benodol am wneud hynny. Byddwch wedi cael gwybod am drefniadau penodol gan eich Tîm CAMHS lleol neu yn eich llythyr apwyntiad. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â'ch Tîm lleol i gael cymorth.
  • PEIDIWCH â dod i'ch apwyntiad os ydych yn sâl a/neu os oes gennych symptomau'r coronafeirws. Mae rhagor o wybodaeth am symptomau'r coronafeirws a beth i'w wneud ar gael yn: https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/symptoms/
  • Gan ein bod yn derbyn nifer uwch o lawer o alwadau ffôn, fe allai gymryd mwy o amser i ni ymateb i chi. Eglurwch yn eich neges os yw'ch ymholiad yn frys, a byddwch yn ystyriol ac yn amyneddgar gyda'n staff - maen nhw'n gwneud popeth y gallant.
  • Os teimlwn fod angen i ni weld eich plentyn yn bersonol, bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi a bydd y mesurau y mae angen eu cymryd i'ch cadw chi a'n clinigwyr yn ddiogel yn cael eu hesbonio.
  • Os ydych yn ansicr beth yw'ch cynllun gofal, ffoniwch y gwasanaeth.
  • Bydd arsylwadau iechyd corfforol (taldra, pwysau, pwysedd gwaed, curiad y galon a thymheredd) yn parhau i gael eu gwneud dim ond os yw hynny'n gwbl hanfodol. Trafodwch gyda'r clinigydd os oes angen hyn.
  • Dim ond os oes arnoch angen sylw meddygol brys y dylech fynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E).
  • Gallwch fod yn sicr bod eich clinigydd wedi datgan ei fod yn ddigon iach i fod yn y gwaith ac y bydd yn dilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol (cynnal pellter o oddeutu 2 fetr) ac yn golchi ei ddwylo'n rheolaidd.

Os ydym wedi cytuno bod angen i chi gael eich gweld yn bersonol, dyma rai enghreifftiau o'r pethau a allai fod yn wahanol:

  • Dilyn trefniadau newydd wrth ddod i'r clinig, er enghraifft ffonio'r clinig wrth gyrraedd neu cyn mynd i mewn i'r adeilad. Bydd y trefniadau lleol yn cael eu cadarnhau gyda chi cyn eich apwyntiad.
  • Defnyddio hylif diheintio dwylo wrth fynd i mewn i'r adeilad.
  • Dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Bydd mwy o arwyddion yn y clinig sy'n esbonio'r broses, gan gynnwys y posibilrwydd o systemau unffordd.
  • Eistedd ymhellach i ffwrdd yn ystafelloedd y clinig.
  • Gallai rhai aelodau staff fod yn gwisgo masgiau.

Os ydych yn bryderus iawn am iechyd meddwl eich plentyn ac yn teimlo bod angen cymorth arno ar unwaith, fe'ch cynghorwn i geisio cael apwyntiad brys gyda'ch meddyg teulu. Gall eich meddyg teulu gysylltu â CAMHS i ofyn am asesiad brys os bydd angen. Os yw'ch meddygfa ar gau, gallwch gysylltu â'r meddyg teulu y tu allan i oriau. Os yw'ch plentyn mewn perygl o'i niweidio ei hun, neu mewn argyfwng oherwydd y symptomau iechyd meddwl y mae'n eu dangos, gallwch hefyd ffonio 999 neu fynd i'r Adran Achosion Brys yn eich ysbyty lleol. Pan fydd eich plentyn yn ddigon iach i'w ryddhau, bydd yr Adran Achosion Brys yn gwneud atgyfeiriad i CAMHS. Bydd yr Asesiad Risg Iechyd Meddwl yn cael ei gwblhau yn yr ysbyty neu yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.

Follow us: