Mae'r cyfnod hwn wedi bod yn anodd iawn i deuluoedd a gofalwyr y mae eu hanwyliaid yn yr ysbyty. Rydym yn deall y bu'n arbennig o anodd peidio â gallu ymweld â nhw i'w helpu i wella a chynnal eu lles.
Mae newidiadau i'r canllawiau yn golygu bod rhywfaint o ymweld yn cael ei ganiatáu bellach. Ond, gall hynny ddigwydd dim ond os ydym yn dilyn canllawiau penodol, felly bydd arnom angen eich cymorth a'ch dealltwriaeth o hyd. Nid yw COVID-19 wedi diflannu, ac mae angen i ni i gyd ddilyn y cyngor ar reoli heintiau er diogelwch pawb.
Cliciwch yma i weld canllawiau diweddaraf y Bwrdd Iechyd ar ymweld: https://cavuhb.nhs.wales/covid-19/