Neidio i'r prif gynnwy

Ble allaf fynd os ydw i mewn argyfwng?

Argyfwng iechyd meddwl yw pan fydd cyflwr meddyliol neu emosiynol unigolyn yn gwaethygu'n gyflym. Mae'n golygu'n aml nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu ymdopi na rheoli eich sefyllfa mwyach.

Gall argyfwng iechyd meddwl fod yn brofiad brawychus. Fe allech deimlo'n ofnus, wedi'ch llethu neu'n unig. Ond mae'n bwysig cofio nad ydych ar eich pen eich hun a bod cymorth ar gael i'ch helpu i deimlo'n well.

P'un a oes gennych broblem iechyd meddwl bresennol sy'n gwaethygu'n sydyn neu'n cael problemau am y tro cyntaf, y peth pwysicaf yw gofyn am gymorth.

Rydym yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen cymorth ar frys.

Os ydych yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl, fe ddylai eich Cynllun Gofal a Thriniaeth gynnwys manylion beth i'w wneud mewn argyfwng.

Os nad ydych yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl, cyfeiriwch at y rhestr isod o bwyntiau mynediad lleol ar gyfer gofal mewn argyfwng yn eich ardal.

Dyma'r rhai sydd ar gael yng Nghaerdydd a'r Fro ar hyn o bryd:

Os ydych yn credu bod angen i chi fynd i'r Uned Achosion Brys - ond nid yw'ch cyflwr yn bygwth eich bywyd neu aelod o'ch corff - mae'n rhaid i chi ffonio yn gyntaf. Ffoniwch CAV 24/7 ar 0300 10 20 247.

I gael cymorth brys nad yw'n argyfwng, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf a fydd yn gallu eich atgyfeirio i'r gwasanaethau iechyd meddwl mwyaf priodol. Y tu allan i oriau meddyg teulu, dylech ffonio CAV 24/7 ar 0300 10 20 247. Os yw'n argyfwng, deialwch 999.

Os oes angen i chi siarad â rhywun heddiw i gael cymorth, cysylltwch â:

CALL 247 - Llinell Cyngor a Gwrando Community Advice and Listening Line 
0800 132737 (ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)


Gwasanaeth cymorth emosiynol a gwrando cyfrinachol, rhad ac am ddim, sydd hefyd yn darparu gwybodaeth a llenyddiaeth am iechyd meddwl a materion cysylltiedig, i bobl yng Nghymru. Gall unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl ffrind neu berthynas ddefnyddio'r gwasanaeth.


Y Samariaid 08457 909090 (ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
Cymorth emosiynol cyfrinachol, rhad ac am ddim, i unrhyw un sy'n profi teimladau o ofid neu anobaith, gan gynnwys y rhai hynny a allai arwain at hunanladdiad. Cyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn swyddfeydd lleol.

Dilynwch ni