Mae tua 1 o bob 8 o blant a phobl ifanc yn cael problemau ymddygiadol neu emosiynol wrth iddynt dyfu. I lawer, bydd y rhain yn gwella ymhen amser, ond bydd angen cymorth proffesiynol ar eraill.
Y peth pwysicaf i'w gofio yw chi sy'n adnabod eich plentyn orau. Os ydych yn poeni, meddyliwch a fu newid sylweddol yn ei ymddygiad sydd wedi para am gyfnod hir. Gallai hyn fod gartref, yn yr ysgol neu'r coleg; gydag eraill neu ar ei ben ei hun; neu mewn perthynas â digwyddiadau neu newidiadau penodol yn ei fywyd, gan gynnwys newidiadau a achoswyd gan y pandemig.
Os ydych yn pryderu neu'n ansicr, mae llawer o gymorth ar gael, gan gynnwys cymorth proffesiynol. Mae www.dewis.wales yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal. Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'ch Canolfan Blant leol. Mae safleoedd eraill defnyddiol yn cynnwys:
Dyma rai dolenni a gwasanaethau defnyddiol i blant a phobl ifanc: https://cavuhb.nhs.wales/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-plant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cypf-emotional-wellbeing-mental-health/resources-and-useful-links/
Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Person Ifanc Hwb Fe welwch chwe rhestr chwarae yma i'ch cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu trwy'r cyfnod clo a thu hwnt. Mae pob un o'r rhestrau chwarae'n cynnwys gwefannau hunangymorth, apiau, llinellau cymorth a mwy sydd ar gael i gefnogi'ch iechyd meddwl a'ch lles. https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/e53adf44-76cb-4635-b6c2-62116bb63a9a/en?_ga=2.151518460.459291157.1604913013-1431377124.1568902089 |
|
CALM HARM: Ap symudol i helpu pobl yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r awydd i hunan-niweidio (Am ddim)
|
CHILDLINE: www.nspcc.org.uk 0800 1111 |
HARMLESS: Mae'n cynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch pobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio neu'n meddwl am wneud hynny. www.harmless.org.uk |
YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk 0808 802 5544 |
SELF HARM UK: Mae'n cynnig lle ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau am bryderon yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk |
RETHINK MENTAL ILLNESS: www.rethink.org 0300 5000 927 |
Y Rhwydwaith Hunan-niwed Cenedlaethol: Mae'r NSHN yn fforwm ar-lein sy'n caniatáu i chi siarad â phobl eraill mewn amgylchedd diogel sy'n cael ei reoli. www.nshn.co.uk |
THE MIX: 0808 808 4994 |
PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk |
YOUNGMINDS CRISIS MESSENGER: Tecstiwch YM i 85258 i gael cymorth am ddim 24/7 |
HEADSPACE: Ap ymwybyddiaeth ofalgar sy'n cynnwys llawer o wahanol raglenni i gefnogi iechyd meddwl. |
SANE: Mae Saneline ar gael o 4.30pm tan 10.30pm bob dydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl 0300 304 7000 |
WELLMIND: Datblygwyd yr ap hwn gan y GIG ac mae'n helpu gyda symptomau gorbryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o gadw golwg ar eich meddyliau a'ch teimladau. |
CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn wych i fonitro meddyliau ac emosiynau anodd, pryd rydych chi'n eu profi a ble. |
THE STRESS AND ANXIETY COMPANION: Mae'r ap hwn yn annog meddwl yn gadarnhaol trwy ei broses therapi gwybyddol ymddygiadol syml ac mae'n eich helpu i ddeall sbardunau. |
THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu eich meddyliau a deall eich emosiynau. |
MEIC: MEIC yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i gael cymorth i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan fydd neb arall. Ni fyddwn yn eich beirniadu a byddwn yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r cymorth y mae arnoch ei angen i newid - https://www.meiccymru.org/ |
Mind: http://www.mind.org.uk/ |