Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Triniaeth Gartref a gwasanaethau cleifion mewnol, wedi parhau i ddarparu cymorth yn ystod y pandemig COVID-19. Fel arfer, bydd arnoch angen atgyfeiriad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael y gwasanaethau hyn.
Mae'n bosibl y bydd y ffordd y mae rhai o'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu wedi newid yn ystod y pandemig er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o drosglwyddo'r feirws a'ch cadw chi, eich anwyliaid a'n staff yn ddiogel.
Os ydych eisoes yn cael gofal gan wasanaethau iechyd meddwl eich Bwrdd Iechyd, gallwch ddisgwyl i gysylltiad â'ch cydlynydd gofal neu weithiwr proffesiynol arall yn y tîm sy'n gofalu amdanoch gael ei gynnal.
Pan fydd yn ddiogel, rhoddir dewis i chi o ran pa fath o gyswllt, gan gynnwys ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu fideo, pan fydd ar gael. Dylai eich Cynlluniau Gofal a Thriniaeth fod yn gyfredol, gan gynnwys yr holl fanylion cymorth perthnasol a'ch cynlluniau argyfwng personol.
Mae ein wardiau cleifion mewnol acíwt yn gweithredu yn ôl yr arfer. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau a newidiadau i'r drefn arferol wedi cael eu cyflwyno ac fe allai'r rhain amrywio yn dibynnu ar yr ardal. Mae manylion y newidiadau hyn ar gael trwy ddilyn y dolenni isod.
Mae'r therapïau a ohiriwyd yn ystod cam cychwynnol y pandemig wedi ailddechrau, trwy dechnoleg fideo, ac wyneb yn wyneb pan fo hynny'n briodol yn glinigol.
Mae'r cymorth y mae aelodau'r teulu a ffrindiau'n ei roi i rywun sydd â chyflwr iechyd meddwl mor bwysig, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID. Mae cynorthwyo rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl yn gallu bod yn anodd i aelodau'r teulu a ffrindiau, ond mae'n bwysig cofio bod cymorth a chefnogaeth ar gael i chi. Bydd gofalu am eich lles eich hun yn golygu eich bod mewn sefyllfa well i helpu rhywun arall i wella. Mae'n bwysig eich bod yn cael y wybodaeth a'r cymorth mwyaf cyfredol a allai eich helpu i barhau â'ch rôl ofalu/cynorthwyo ar yr adeg hon.
Gall sefydliadau gofalwyr ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth perthnasol. Gallant:
Mae'n bwysig eich bod yn cofio eich bod yn gwneud eich gorau ar yr adeg anodd iawn hon, felly byddwch yn garedig i'ch hun.