Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Brechu Torfol COVID-19

Diweddarwyd ddiwethaf: 02/04/24

Rhaglen Dos Atgyfnerthu'r Gwanwyn COVID-19 2024

Mae rhaglen frechu flynyddol dos atgyfnerthu’r gwanwyn COVID-19 bellach ar waith yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. 

O 2 Ebrill 2024 tan ddiwedd Mehefin 2024, y nod yw cynnig amddiffyniad ychwanegol i’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. 

Yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor arbenigol ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i: 

  • oedolion sy’n 75 mlwydd oed a hŷn 

  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn, ac 

  • unigolion 6 mis oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan. 

Bydd pob unigolyn cymwys yn cael ei wahodd i gael y brechlyn trwy lythyr personol i’w cyfeiriad cartref. 

Brechiadau yw’r amddiffyniad gorau o hyd yn erbyn salwch difrifol sy’n deillio o COVID-19. Mae’r amddiffyniad yn gostwng dros amser, felly mae’n bwysig cael y brechiadau diweddaraf os ydych yn gymwys. 

Cwestiynau ac Atebion 

C. Pam mae angen brechiad dos atgyfnerthu’r gwanwyn ar rai pobl? 

A. Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau gostwng dros amser. Bydd dos y gwanwyn yn helpu i’ch amddiffyn am gyfnod hirach. 
Bydd hefyd yn helpu i leihau’r risg o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd haint COVID-19. 

C. Pryd fydd brechlyn y gwanwyn yn cael ei roi? 

A. Os ydych yn gymwys i gael dos atgyfnerthu’r gwanwyn, caiff ei gynnig rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos diwethaf o’r brechlyn. Os byddwch yn troi’n 75 rhwng mis Ebrill a Mehefin, byddwch yn cael eich galw i gael eich brechiad yn ystod y rhaglen; nid oes angen i chi aros am eich pen-blwydd. 

C. Sut fyddai’n cael fy mrechiad? 

A. Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod pryd a ble i gael y brechlyn. Mae’n bwysig mynychu’r apwyntiad pan gewch eich gwahodd. 
Os na allwch fynychu, rhowch wybod i’r tîm trefnu apwyntiadau fel y gallant roi eich apwyntiad i rywun arall. Mae manylion cyswllt y tîm ar y llythyr apwyntiad. 

Mae rhagor o wybodaeth am y ddos atgyfnerthu’r gwanwyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma

 

 

Rydym yn ymwybodol o negeseuon e-bost sgam sy'n cylchredeg ynglŷn â brechiadau COVID-19 sy'n honni eu bod yn dod o'r GIG. Ar hyn o bryd, ni ellir prynu brechlynnau COVID-19 yn breifat yn y Deyrnas Unedig ac mae brechiadau'n rhad ac am ddim. Byddwch yn effro i sgamiau posibl ynglŷn â'r Rhaglen Brechu Torfol COVID-19, a pheidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol.

Dilynwch ni