Pwrpas yr Is-bwyllgor Gwybodaeth, Technoleg a Llywodraethu yw rhoi sicrwydd i'r Bwrdd fel a ganlyn:
Caiff rôl lawn y Pwyllgor ei hamlinellu yn y Cylch Gorchwyl drafft. Mae'n adrodd i'r Pwyllgor Strategaeth a Chyflawni.
Lluniwyd y Pwyllgor yn sgil uno'r is-bwyllgorau Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg a Llywodraethu Gwybodaeth gynt. Cyflawnwyd darbodion maint gan fod un fforwm bellach yn trafod rhai pynciau a oedd yn berthnasol hyd yn hyn i ddau bwyllgor.
I fynd at bapurau'r Pwyllgor, dewiswch ddyddiad y cyfarfod perthnasol isod. Os hoffech ddod i'r cyfarfod fel arsyllwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Tolley ar 02921 836009.
Cadeirydd y Pwyllgor: Eileen Brandreth, Aelod Annibynnol, Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg
Prif Swyddogion Gweithredol: Y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Trawsnewid
Ysgrifenyddiaeth: Laura Tolley
Aelodau:
Michael Imperato
Charles Janczewski
Cynhelir cyfarfodydd yn yr Ystafell Gyfarfod Gorfforaethol, y Pencadlys, Ysbyty Athrofaol Cymru
Dyddiadau cyfarfod 2018/19 | Cyfarfod 2019/20 |
---|---|
6 Mawrth 2018 13 Mehefin 2018 31 Hydref 2018 29 Ionawr 2019 |
15 Awst 2019 1 Hydref 2019 4 Chwefror 2020 |