Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eisoes yn cyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli bod llawer i'w wneud o hyd
Rydym yn gofyn i bawb feddwl sut y gallent gyfrannu at y pum ffordd o weithio i wneud yn siwr bod ein gwasanaethau yn gynaliadwy, ac yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad pobl heddiw ac yn y dyfodol.
Nod y ddeddf yw gwella'r potensial am wella iechyd a llesiant mewn ardaloedd lleol, a gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau rhanddeiliaid traws-sector i gryfhau effaith y Ddeddf ar iechyd a llesiant, gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol.
Rydym yn gweithio i sicrhau ein bod ni'n:
Rydym yn mynd ati'n fwy cysylltiedig i gyflawni'r Gymru a garem.
Gall pawb yn y Bwrdd Iechyd gyfrannu at weithredu heddiw er gwell yfory yn ein gweithredoedd, yn y gwaith a'r tu hwnt iddo.
Cysylltu â ni
Os hoffech drafod eich syniadau, eich prosiectau, neu gysylltu â ni, cysylltwch â Deborah Page - Deborah.Page2@wales.nhs.uk a Louise Knott - Louise.Knott@wales.nhs.uk
Diben Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
O fewn y Bwrdd Iechyd, mae Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; diben y grŵp hwn yw dwyn trefn i waith y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn y maes hwn, gan sicrhau bod y sefydliad yn bodloni rhwymedigaethau statudol cyrff cyhoeddus fel y'u hamlinellir yn Rhannu Pwrpas: Rhannu Dyfodol 2 (Canllawiau Statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015).
Hefyd, bydd y Grŵp yn cynnig arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i waith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae amcanion Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel a ganlyn:-
Bydd Grŵp Llywio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd.
Bydd yr aelodau'n cynnwys y canlynol:-
Y Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd
Y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio;
Y Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol;
Y Cyfarwyddwr Cyfathrebiadau ac Ymgysylltu;
Y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid;
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygiad Strategol a Thrawsnewid;
Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sefydliadol;
Meddyg Ymgynghorol Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd;
Arweinydd Cynllunio Strategol Corfforaethol
Y Pennaeth Caffael;
Y Pennaeth Cludiant a Theithio Cynaliadwy;
Y Pennaeth Perfformiad ac Ynni;
Rheolwr Cynllunio a Phartneriaeth Strategol;
Arweinydd Ymgysylltu; a
Phartner o blith y staff.