Beth yw’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau? Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dangos y gwahaniaeth yn y cyflog cyfartalog rhwng dynion a menywod yn y gweithle. Daeth Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau) 2017 i rym ar 6 Ebrill 2017, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr yn Lloegr sydd â 250 neu fwy o gyflogeion i gyhoeddi cyfrifiadau statudol bob blwyddyn yn dangos y bwlch cyflog rhwng eu cyflogeion sy’n ddynion ac yn fenywod.
Fel sefydliad gofal iechyd mawr y GIG, mae’n ddyletswydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i roi gwybod am ei wybodaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau blynyddol erbyn 31 Mawrth.
Er bod y Bwrdd Iechyd wedi cydymffurfio’n llawn wrth gyflwyno’r data hwn drwy borth y Llywodraeth, er budd tryloywder, mae’r adroddiad cynhwysfawr llawn yng nghamau olaf y broses cadarnhau mewnol ar hyn o bryd a chaiff ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl.