Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymddiheuro am ganfyddiadau mewn Adroddiad Arolygu gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol

Dydd Mercher, 8 Tachwedd 2017

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro'n ddiamod i deuluoedd ac mae'n derbyn canfyddiadau adroddiad arolygu gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol yn llawn. 

Amlygodd arolygiad o gyfleusterau corffdy a phatholeg gellog yn Ysbyty Athrofaol Cymru rhwng 9 a 10 Awst 2017 fethiannau mewn tri maes critigol, 14 maes pwysig a 9 mân faes. Ers hynny, mae'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn cydweithredu'n llawn â'r Awdurdod Meinweoedd Dynol i wella'r meysydd a nodwyd ac i unioni'r sefyllfa. 

Yn dilyn yr arolygiad cychwynnol, fe wnaeth archwiliad dilynol dan gais yr Awdurdod Meinweoedd Dynol amlygu 42 achos lle'r oeddem wedi cadw meinweoedd dynol yn hwy na'r angen ac nid oedd y teuluoedd wedi rhoi eu caniatâd i ni barhau i storio'r feinwe.

Mewn 38 o'r achosion hyn, credwn yn bresennol bod y teulu neu'r crwner wedi rhoi cyfarwyddyd i ni waredu'r deunyddiau hyn yn gyfreithlon ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn gwneud hynny. 

Yn y pedwar achos sy'n weddill, mae'r awdurdod perthnasol wedi ceisio cysylltu â'r teuluoedd dan sylw. Nid yw'n glir mewn dau achos beth yw dymuniadau'r teulu o ran cyfarwyddiadau ac nid yw'r rhain wedi'u datrys. Mae un achos wrthi'n cael ei ddychwelyd i'r teulu yn unol â'u dymuniadau ac, yn yr achos olaf, mae'r teulu wedi bod yn byw dramor ers sawl blwyddyn ac mae wedi bod yn anodd cysylltu â nhw. 

Mae ein harchwiliadau cychwynnol wedi nodi bod yr holl ddeunydd/meinwe dynol wedi'i gymryd yn gyfreithlon am resymau dilys, ond derbyniwn fel Bwrdd Iechyd na wnaethom waredu'r rhain o fewn tri mis, yn unol â gofynion cod ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol ar gyfer archwiliadau post mortem. 

Er nad oes tystiolaeth uniongyrchol sy'n awgrymu ein bod wedi cynnal unrhyw weithgarwch pellach ar yr achosion hyn, mae hwn yn destun ymchwiliad manwl sy'n mynd rhagddo. 

Mae 'Unigolyn Dynodedig' newydd ei benodi eisoes wedi dechrau ar waith i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â phob maes y mae angen gweithredu arno.

Mae'r Awdurdod Meinweoedd Dynol wedi rhoi tan 6 Tachwedd 2017 i'r Bwrdd Iechyd fynd i'r afael â'r holl faterion â blaenoriaeth a nodwyd, a hyd yn hyn, mae'r rhain naill ai wedi'u datrys neu, gyda chytundeb yr Awdurdod Meinweoedd Dynol, byddant yn cael eu datrys erbyn y terfyn amser. Mae'r Unigolyn Dynodedig yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Meinweoedd Dynol a'r holl asiantaethau partner sydd ynghlwm â gwasanaethau labordy patholeg gellog a chorffdy i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r adroddiad.

Mae'r Awdurdod Meinweoedd Dynol yn deall y bydd rhai o'r camau'n cymryd amser i'w cwblhau. Ni fydd hyn yn effeithio'n andwyol ar berfformiad presennol y gwasanaeth.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yr Awdurdod Meinweoedd Dynol a'r cynllun gweithredu cysylltiedig yn llawn ar wefan y Bwrdd Iechyd a bydd y Bwrdd yn ystyried ac yn craffu ar yr adroddiad a'r cynllun gweithredu.

Meddai Dr Graham Shortland, y Cyfarwyddwr Meddygol a deiliad trwydded corfforaethol yr Awdurdod Meinweoedd Dynol: "Mae'n ddrwg iawn gennym am unrhyw drallod diangen y gall canfyddiadau'r adroddiad eu hachosi. Rydym yn cymryd yr adroddiad arolygu o ddifrif ac mae timau o bobl wedi bod yn gweithio ar unioni'r meysydd a nodwyd. 

“Gyda chydweithrediad agos yr Awdurdod Meinweoedd Dynol, rydym eisoes wedi cychwyn maes sylweddol o waith gwella amlasiantaethol gyda Phrifysgol Caerdydd, Heddluoedd lleol a'r crwneriaid i ddatblygu protocolau a phrosesau ar y cyd i gefnogi cyfathrebu effeithiol a phrydlon mewn achosion sy'n aml yn gymhleth ac yn para am gyfnod hir.

“Ar sail amlasiantaethol, rydym wedi gweithio trwy fanylion yr achosion. Rydym yn cydnabod y gall oedi cyn gwaredu fod yn drallodus a pheri gofid i rai teuluoedd sydd eisoes yn delio â cholli anwylyn. Roedd modd osgoi'r trallod ychwanegol hwn yn llwyr ac mae'n ddrwg iawn gennym am hyn.”

Ar 29 Medi 2017, ymwelodd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol â chorffdy Ysbyty Athrofaol Cymru eto i adolygu'r gwelliannau uniongyrchol a'r cynllun gweithredu hyd yn hyn, ac rydym wedi parhau i weithio ar y cyngor ychwanegol i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill sy'n defnyddio'r corffdy a'r gwasanaethau labordy cellog yn diwallu'r holl gydymffurfio statudol a rheoleiddiol. 

Er mai nifer bach iawn o achosion sydd wedi'u heffeithio, rydym yn cydnabod y gall hyn achosi trallod diangen i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid. Os ydych chi'n tybio bod hyn wedi effeithio arnoch chi, rydym wedi sefydlu rhif ffôn cyswllt, sef 0800 952 0055.

Dilynwch ni