Neidio i'r prif gynnwy

Is-bwyllgor Gwybodaeth, Technoleg a Llywodraethu

Pwrpas yr Is-bwyllgor Gwybodaeth, Technoleg a Llywodraethu yw rhoi sicrwydd i'r Bwrdd fel a ganlyn:

  • Bod systemau a phrosesau priodol ar waith gan Fyrddau Clinigol a Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer data, rheoli gwybodaeth a llywodraethu fel y gall y Bwrdd Iechyd Prifysgol fodloni ei amcanion datganedig, ei gyfrifoldebau deddfwriaethol ac unrhyw ofynion a safonau perthnasol a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru.
  • Bod gwelliant parhaus o ran llywodraethu gwybodaeth o fewn y Bwrdd Iechyd Prifysgol a bod risgiau sy'n deillio o hyn yn cael eu rheoli'n briodol.
  • Bod gwasanaethau rheoli gwybodaeth a thechnoleg yn ddiogel ac yn gynaliadwy, a bod risgiau'n cael eu hasesu a'u rheoli. 
  • Bod cyngor, cyfathrebu, ymgysylltu a hyfforddiant effeithiol ar waith ar draws y Bwrdd Iechyd Prifysgol ar gyfer Llywodraethu Gwybodaeth a Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg.
  • Bod strategaethau priodol yn cael eu goruchwylio a'u cyflawni er mwyn helpu i gyflawni Cynllun Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd Prifysgol, gan gynnal perthnasoedd effeithiol â rhanddeiliaid a manteisio ar dechnoleg a gwybodaeth arloesol i'w defnyddio wrth wneud penderfyniadau.

Caiff rôl lawn y Pwyllgor ei hamlinellu yn y Cylch Gorchwyl drafft. Mae'n adrodd i'r Pwyllgor Strategaeth a Chyflawni.

Lluniwyd y Pwyllgor yn sgil uno'r is-bwyllgorau Rheoli Gwybodaeth a ThechnolegLlywodraethu Gwybodaeth gynt. Cyflawnwyd darbodion maint gan fod un fforwm bellach yn trafod rhai pynciau a oedd yn berthnasol hyd yn hyn i ddau bwyllgor. 

I fynd at bapurau'r Pwyllgor, dewiswch ddyddiad y cyfarfod perthnasol isod. Os hoffech ddod i'r cyfarfod fel arsyllwr, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Tolley ar 02921 836009.

Cadeirydd y Pwyllgor:  Eileen Brandreth, Aelod Annibynnol, Rheoli Gwybodaeth a Thechnoleg
Prif Swyddogion Gweithredol:  Y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Trawsnewid 
Ysgrifenyddiaeth:  Laura Tolley
 
Aelodau:
Michael Imperato
Charles Janczewski
 
Cynhelir cyfarfodydd yn yr Ystafell Gyfarfod Gorfforaethol, y Pencadlys, Ysbyty Athrofaol Cymru 

Dyddiadau cyfarfod 2018/19  Cyfarfod 2019/20 
6 Mawrth 2018
13 Mehefin 2018
31 Hydref 2018
29 Ionawr 2019
15 Awst 2019
1 Hydref 2019
4 Chwefror 2020
Dilynwch ni