Cynlluniwch eich taith i Ysbyty’r Barri gyda Traveline Cymru
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal cynllun Pàs Bws i helpu staff i brynu tocyn ‘To Go’ neu ‘To Go Plus’ blynyddol. Bydd hyn yn rhoi cerdyn iff Bws Caerdydd i chi sydd wedi’i raglwytho â’r math o docyn sydd ei angen arnoch. Gallwch ddewis talu am y tocyn naill ai mewn rhandaliadau wythnosol neu fisol i’ch helpu i ledaenu’r gost.
Y gorsafoedd trên agosaf at Ysbyty’r Barri yw’r Barri (1.7 milltir) a Dociau’r Barri (2.2 milltir). Mae tacsis yno’n aros y tu allan i Orsaf y Barri fel arfer ond fe allai fod yn syniad da i archebu ymlaen llaw rhag ofn.