Rhaid i gleifion ac ymwelwyr barcio mewn mannau parcio dynodedig i gleifion ac ymwelwyr rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r meysydd parcio hyn wedi’u nodi’n glir gan yr arwyddion glas.
Y tu allan i’r oriau hyn, gall cleifion ac ymwelwyr ddefnyddio unrhyw faes parcio dynodedig, ac eithrio parthau gollwng.
Bydd camau gorfodi yn cael eu cadw ar gyfer mannau parcio Bathodyn Glas a rheoli traffig (llinellau coch/melyn dwbl, ardaloedd â llinellau melyn, ac ati).
Lleolir mannau parcio Bathodyn Glas ar flaen safle'r ysbyty, ger y brif fynedfa.
Mae ein meysydd parcio i gleifion ac ymwelwyr yn caniatáu 4 awr o barcio am ddim rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ni orfodir y cyfyngiad hwn y tu allan i’r oriau hyn.
Gall cleifion ac ymwelwyr ychwanegu dwy awr i’w hamser parcio drwy roi manylion cofrestru eu cerbyd yn un o’r peiriannau parcio sgrin gyffwrdd ar draws y safle. Mae’r peiriannau parcio wedi’u lleoli yn ardal derbynfa’r ysbyty ac o fewn adrannau eraill.
Sicrhewch eich bod yn gwneud hyn o fewn eich arhosiad chwe awr. Os bydd angen i chi aros yn hirach neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch ag aelod o staff neu cysylltwch â Swyddfa Parcio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gael cymorth.
Nid oes yn rhaid i gleifion ac ymwelwyr dalu am barcio yn YALl, fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar waith a chyhoeddir hysbysiadau taliadau parcio os na chydymffurfir â’r rhain. Caiff ein meysydd parcio eu rheoli gan ParkingEye. Os byddwch yn derbyn hysbysiad tâl parcio ac yn dymuno cyflwyno apêl i ParkingEye, gallwch wneud hynny drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiad ei hun.
Os ydych yn aelod o staff a’ch bod yn dymuno parcio ar safle, rhaid i chi wneud cais am drwydded. Er y gallech gael trwydded, nid yw hyn yn sicrhau eich bod yn cael lle parcio ar y safle.